Canlyniad prawf gwaed: rydych yn gludydd crymangelloedd
Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n feichiog ac wedi cael prawf gwaed sy’n dangos eich bod chi’n gludydd clefyd y crymangelloedd (a gyfeirir ato’n aml fel ‘meddu ar nodwedd’ neu ‘having a trait’). Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am fod yn gludydd, a’r hyn y mae’n ei olygu i chi a’ch teulu.