Cwestiynau Cyffredin Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus
Crëwyd y Cwestiynau Cyffredin hyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am Banel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Bydd rhagor o gwestiynau ac atebion yn cael eu hychwanegu dros amser, felly cadwch olwg ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Os hoffech ragor o wybodaeth nad yw wedi’i chynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin, e-bostiwch ni yn SiaradICCymru@djsresearch.com orneu ffoniwch ni yn 01663 761 697.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Pwy all fod yn ryhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Mae pobl sy’n byw yng Nghymru 16 oed a throsodd yn cael eu gwahodd i ymuno ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn grŵp o tua 2,500 o bobl sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru. Mae arnom angen ystod amrywiol o drigolion o bob rhan o Gymru i gymryd rhan fel ein bod yn casglu amrediad eang o safbwyntiau
Dim ond un aelod o bob cartref all fod yn rhan o grŵp Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
Os nad ydych yn gallu cymryd rhan, rhowch wybod i ni os oes gan rywun arall yn eich cartref ddiddordeb a gallwn ni wirio i weld a ydynt yn cyfateb i’r grwpiau rydym yn chwilio amdanynt ar hyn o bryd.
Beth yw nod Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Nod Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yw helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall agweddau, barn, emosiynau a diddordebau’r cyhoedd ar amrediad o bynciau iechyd y cyhoedd. Fel y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol i Gymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweld y cyhoedd fel partner pwysig yn eu penderfyniadau ac mae am sicrhau bod gan
drigolion Cymru lais mewn polisi ac ymarfer sy’n effeithio arnyn nhw, eu cymunedau, a’u cenedl.
Bydd y Panel hwn yn rhoi mecanwaith i Iechyd Cyhoeddus Cymru o allu cyfleu llais y cyhoedd yn rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r hyn y maent yn ei wneud, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd).
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn rhan bwysig o ddeddfwriaeth genedlaethol yng Nghymru o’r enw ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ (WFGA). Drwy’r ddeddfwriaeth hon, mae’n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau; gweithio’n well gyda phobl, cymunedau, a’i gilydd; ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi’r cyhoedd fel rhanddeiliad allweddol wrth wneud penderfyniadau.
Oes rhaid i mi gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Mae cymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn gwbl wirfoddol.
Gall aelodau dynnu’n ôl o’r grŵp ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid iddynt roi rheswm dros dynnu’n ôl. Ni fyddai penderfyniad i dynnu’n ôl yn effeithio ar eich hawliau, nrhyw driniaeth iechyd yn awr nac yn y dyfodol, nac unrhyw wasanaethau a gewch.
Pa iaith alla i ei defnyddio i gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Gallwch gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gofynnir i chi ar ddechrau recriwtio pa un o’r ddwy iaith yr hoffech gymryd rhan
ynddynt. Os hoffech chi gymryd rhan mewn iaith wahanol, cysylltwch â DJS Research drwy e-bost yn [email protected] neu drwy ffonio 01663 761 697 i drafod, a byddant yn gwneud eu gorau i wneud y trefniadau.
Sut mae pobl wedi cael eu nodi i gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Mae unigolion yn cael eu dewis ar hap i gael eu gwahodd i ymuno ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus dros y ffôn neu drwy gyfwelwyr sy’n ymweld ag ardaloedd ledled
Cymru. Rydym hefyd yn gwahodd pobl i gofrestru ar-lein trwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol.
Beth fydd yn cael ei ofyn i mi os byddaf yn cytuno i fod yn rhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Unwaith y byddwch yn rhoi caniatâd i gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, gofynnir i chi gwblhau arolwg cofrestru 5 munud cychwynnol.
Yna gofynnir i chi gwblhau un arolwg bob tri mis, naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Disgwylir y bydd cymryd rhan ar-lein yn cymryd 10 munud, a bydd cymryd rhan dros y ffôn yn cymryd 15-20 munud.
Gallech gael eich gwahodd o bryd i’w gilydd i gymryd rhan mewn arolygon neu ymchwil eraill gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, fodd bynnag, gofynnir i chi am ganiatâd ychwanegol i hyn ddigwydd.
Sut ydw i’n cwblhau’r arolwg?
Pan ymunwch ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, gofynnir i chi sut yr hoffech chi gwblhau’r arolygon. Mae dwy ffordd y gallwch chi wneud hyn:
a) Ar-lein
• Byddwch yn derbyn e-bost gwahoddiad â dolen arolwg wedi’i phersonoli.
• Bydd yr arolwg ar agor i’w gwblhau am tua 3 wythnos – bydd y dyddiad cau yn cael ei gynnwys yn yr e-bost gwahoddiad.
• Ychwanegwch ‘[email protected]’ at eich rhestr anfonwyr diogel gan fod hyn yn helpu i atal yr e-bost rhag mynd i’ch post sothach.
• Rydym yn gwybod bod pawb yn brysur, felly rydym yn anfon nodiadau atgoffa am yr arolwg cyn y dyddiad cau os na fydd arolygon wedi’u cwblhau.
b) Dros y ffôn
• Bydd cyfwelydd hyfforddedig o DJS Research yn eich ffonio i gwblhau pob arolwg o fewn yr amserlenni y gwnaethoch ddweud wrthym sydd orau gennych chi.
• Bydd y cyfwelydd yn eich ffonio o 01663 761 693 – efallai yr hoffech chi gadw’r rhif hwn fel eich bod yn ei adnabod.
• Bydd y cyfweliadau’n cael eu recordio at ddibenion hyfforddi ac ansawdd; bydd y rhain yn cael eu rheoli gan DJS Research a’u dileu dri mis ar ôl y cyfweliad. I gael
rhagor o wybodaeth, ewch i Hysbysiad preifatrwydd DJS Research (yn agor mewn ffenestr newydd).
Pa gwestiynau a ofynnir yn yr arolygon?
Diffinnir iechyd cyhoeddus fel “gwyddor diogelu a gwella iechyd teuluoedd a chymunedau lle maent yn byw, yn dysgu, yn gweithio ac yn chwarae”.
Mae hyn yn golygu y gallai’r pynciau y gofynnir i chi fod yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich iechyd neu iechyd pobl Cymru, megis ymddygiadau iechyd, cyflogaeth, costau byw, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, tai, neu’r gwasanaethau iechyd y gallech eu defnyddio.
Gofynnir i chi hefyd rywfaint o wybodaeth gyffredinol amdanoch chi, eich iechyd ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd i’n helpu i ddeall mwy am eich barn a’ch agweddau. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir, ac ni fydd unrhyw atebion a roddwch yn effeithio ar unrhyw wasanaethau y byddwch yn eu defnyddio.
Beth os na allaf gwblhau arolwg bob tri mis?
Rydym yn gwybod bod bywyd yn brysur, ac mae’n hawdd colli arolwg oherwydd gwyliau ac ati, felly os byddwch chi’n methu arolwg peidiwch â phoeni, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gymryd rhan yn yr un nesaf. Ar gyfer pob arolwg, mae Iechyd CyhoeddusCymru yn wirioneddol awyddus i gasglu data gan amrediad amrywiol o bobl fel bod y wybodaeth yn adlewyrchu pobl Cymru.
Byddwn ni’n parhau i’ch gwahodd i gymryd rhan ym mhob arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus pan fydd ar agor. Fodd bynnag, os byddwch yn methu tri arolwg yn olynol, gallech gael eich tynnu o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
A oes unrhyw risgiau / manteision o gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Nid oes unrhyw risgiau disgwyliedig o gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn
cael eu storio’n ddiogel. Ni fydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio’n uniongyrchol gyda’r atebion i’r arolwg a ddarperir gennych. Bydd pob aelod o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn cael cod adnabod unigryw a gynhyrchir ar hap, a bydd hwnnw’n cael ei neilltuo i’ch atebion.
Mantais cymryd rhan fydd eich bod yn helpu i roi llais i bobl Cymru o fewn polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Rydym hefyd yngobeithio y bydd cymryd rhan yn cynyddu eich gwybodaeth am wahanol bynciau iechyd y cyhoedd a allai fod o ddiddordeb i chi.
A fydd fy rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn cael ei gadw’n gyfrinachol?
Mae eich ymatebion gonest yn bwysig i ni. Bydd yr holl wybodaeth a roddwch fel rhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn gwbl gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fydd yn cael ei storio gyda’ch enw.
Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chynnwys mewn adroddiadau sy’n defnyddio’r canfyddiadau yn eich adnabod chi. Bydd eich data, gan gynnwys data y gellir eu hadnabod yn bersonol, yn cael eu storio’n ddiogel gan y cwmni ymchwil i’r farchnad a gomisiynwyd (DJS Research Ltd) ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â
chael eu storio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n bosibl y bydd eich data’n cael eu rhannu â chwmni ymchwil marchnad gwahanol os bydd y cwmni ymchwil i’r
farchnad rydym yn partneru â nhw yn newid yn y dyfodol. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y cwmni ymchwil marchnad.
Ni fydd eich atebion yn cael eu rhannu ag unrhyw un y tu hwnt i dîm y prosiect, ONI BAI eich bod yn datgelu bwriad i niweidio eich hun neu rywun arall, gwybodaeth sy’n
nodi y gallai rhywun achosi risg difrifol o niwed i chi neu’r cyhoedd, neu’r bwriad o gyflawni gweithred o derfysgaeth. Byddem yn trafod hyn â chi cyn dweud wrth unrhyw
un arall.
Sut fydd fy nata yn cael eu storio neu eu defnyddio?
Mae diogelu data personol yn un o brif flaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a DJS Research Ltd, a bu erioed felly. Mae DJS Research yn cydymffurfio â chanllawiau a
gofynion y cod ymddygiad proffesiynol sy’n berthnasol i bob cwmni ymchwil i’r farchnad cofrestredig a’r holl reoliadau lleol presennol, yn enwedig o ran diogelu data
ymatebwyr. Mae DJS Research yn defnyddio technegau anhysbysu i ddiogelu data personol ymatebwyr. Fel rhan o’i weithrediadau casglu data, mae mynediad at ddata personol wedi’i gyfyngu i’r bobl sydd angen gweithio gyda’r data yn uniongyrchol yn unig.
Bydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio am gyhyd ag sydd ei angen at ddibenion Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Ar ben hynny, ni fydd eich data personol yn cael eu storio’n uniongyrchol gyda’r atebion arolwg a ddarperir gennych.
Os ydych chi’n poeni am sut mae eich data yn cael eu rheoli, ewch i hysbysiad preifatrwydd DJS Research a hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd). Mae croeso i chi anfon e-bost hefyd i [email protected] neu ffonio 01663 761 697 i drafod unrhyw bryderon.
Sut fydd canlyniadau arolygon Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn cael eu rhannu?
Bydd canfyddiadau arolygon y Panel yn cael eu hysgrifennu mewn adroddiadau ac allbynnau tebyg (e.e. cyflwyniadau). Caiff bwletinau rheolaidd o ganfyddiadau’r adroddiad eu rhannu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roesoch.
Pan fo’n bosibl, bydd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ac ar gael i’w darllen yn www.SiaradICCymru.com.
Bydd canfyddiadau arolygon Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn cael eu hysgrifennu mewn adroddiadau ac allbynnau tebyg (e.e. cyflwyniadau). Os ydych wedi darparu
cyfeiriad e-bost, bydd yr adroddiadau allweddol a gyhoeddir o bob arolwg yn cael eu rhannu â chi yn uniongyrchol. Bydd yr adroddiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenest newydd).
A allaf dynnu’n ôl o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
Wrth gwrs. Gallwch dynnu’n ôl o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus ar unrhyw adeg. Bydd eich gwybodaeth bersonol adnabyddadwy gan gynnwys eich enw a gwybodaeth gyswllt yn cael ei dileu yn dilyn yr hysbysiad tynnu’n ôl. Bydd peth gwybodaeth anadnabyddadwy megis band oedran, rhyw, a lleoliad daearyddol (e.e. gwledig/trefol) yn cael ei chadw i’n helpu i ddeall y mathau o bobl sy’n tynnu’n ôl a phryd.
Gan fod adroddiadau ac allbynnau eraill o’r data yn cael eu cynhyrchu’n rheolaidd, mae’n debygol y bydd rhywfaint o’ch data eisoes wedi’u cynnwys mewn allbwn, ac felly ni fydd yn bosibl tynnu’ch data o’r allbynnau hynny.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod am dynnu’n ôl, rhowch wybod i ni sut yrhoffech dynnu’n ôl, gan fod dau opsiwn:
• Opsiwn 1: Tynnu eich cyfranogiad yn ôl wrth symud ymlaen ond gellir parhau i ddefnyddio’r data a roddwyd gennych eisoes mewn dadansoddiadau ac allbynnau pellach (e.e. caniatáu i ni fesur newidiadau dros amser).
• Opsiwn 2: Tynnu eich cyfranogiad yn ôl wrth symud ymlaen a dileu eich data yn gyfan gwbl o unrhyw ddadansoddiadau ac allbynnau ychwanegol.
Sut allaf ddiweddaru fy manylion cyswllt neu ddewisiadau ar Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?
I ddiweddaru eich manylion cyswllt neu wneud newid i sut y byddai’n well gennych gymryd rhan yn yr arolygon chwarterol, anfonwch e-bost i [email protected] neu ffoniwch 01663 761 697.
Pwy yw DJS Research Ltd?
Mae DJS Research Ltd (yn agor mewn ffenest newydd) yn gwmni ymchwil sydd wedi’i gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Mae DJS Research yn aelod llawn o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Maent yn rhwym i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (yn agor mewn ffenestnewydd). Rhagor o wybodaeth am bolisi a phrosesau preifatrwydd DJS Research (yn agor mewn ffenest newydd).
 phwy y dylwn gysylltu os hoffwn gael rhagor o wybodaeth?
DJS Research yw’r prif bwynt cyswllt gan eu bod yn rheoli Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01663 761697. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sut mae gwneud cwyn?
DJS Research yw’r prif bwynt cyswllt gan eu bod yn rheoli Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01663 761 697. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Os nad yw DJS Research wedi gallu datrys eich pryderon, mae croeso i chi wneud cwyn ffurfiol i Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy e-bostio [email protected]. neu ffonio 029 2022 7744.