Paracetamol ar gyfer atal a thrin twymyn ar ôl imiwneiddio yn erbyn clefyd Meningococol B
Bydd imiwneiddio yn erbyn clefyd serogrŵp B meningococol (MenB) yn cael ei ychwanegu at y rhaglen imiwneiddio i blant fel rhan o’r amserlen arferol o 1 Medi 2015 ymlaen. Bexsero® yw’r brechlyn a argymhellir ar gyfer y rhaglen imiwneiddio plentyndod arferol. Mae’r adnodd hwn yn darparu cyngor i fferyllwyr ar y defnydd priodol o barasetamol i atal a thrin twymyn sy’n gysylltiedig ag imiwneiddio gyda Bexsero®.