Neidio i'r cynnwys

Diweddariad ar gyflenwadau o’r brechlyn Pneumovax23

Oherwydd cynnydd yn y galw byd-eang, mae cyflenwadau o Pneumovax®23 (Brechlyn Polysacarid Niwmococol) wedi bod dan gyfyngiad ers 2017. O ganlyniad, mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar flaenoriaethu’r stoc sydd ar gael, yn fwyaf diweddar yn CMO/CEM/2020/29.

Mae’r llythyr hwn yn rhoi gwybodaeth am newid i lwybr cyflenwi’r Brechlyn Polysacarid Niwmococol (PPV23) sydd i’w ddefnyddio yn rhaglen frechu’r GIG o 1 Mehefin 2021.