Brechlyn MenACWY - Ynglŷn â’r brechlyn MenACWY
Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi i’ch diogelu rhag clefyd meningococol.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Mae pobl ifanc 13-14 oed (blwyddyn ysgol 9) yn cael cynnig y brechlyn MenACWY ochr yn ochr â’r pigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc fel mater o drefn. Mae’r brechlynnau hyn ar gael am ddim gan y GIG fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.
Mewn rhai ardaloedd, lle na fydd y brechlyn yn cael ei roi yn yr ysgol, byddwch yn cael eich gwahodd i’w gael yn eich practis meddygon teulu.
Efallai y bydd pobl ifanc a addysgir gartref neu nad ydynt mewn addysg brif ffrwd yn cael cynnig y brechlyn yn eu practis meddyg teulu neu ganolfan frechu gymunedol. Bydd angen i chi wneud apwyntiad pan fydd yn bryd i chi wneud hynny.
Mae’r rheiny sy’n gymwys i gael y brechlyn MenACWY hefyd yn cynnwys:
- Y rhai a fethodd gael brechiad hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.
- Pobl sydd â risg uwch o ddal clefyd meningococol oherwydd cyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes neu driniaeth sy’n cael ei rhoi ar y pryd, teithio, mudo neu oherwydd eu swydd.
- Efallai yr argymhellir bod y rhai sy’n gysylltiadau agos ag achos wedi’i gadarnhau o glefyd meningococol hefyd yn cael y brechlyn MenACWY.
Os ydych yn anhwylus a bod gennych dymheredd ar ddiwrnod y brechlyn, mae’n well aros nes eich bod yn well cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Nid yw annwyd na mân anhwylder arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi.
Mae’n bwysig bod pobl ifanc a allai fod wedi methu’r brechlyn MenACWY yn ei gael cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn bwysig os ydynt yn bwriadu mynd i goleg neu brifysgol neu os ydynt eisoes mewn coleg neu brifysgol. Gall cymysgu’n agos mewn mannau cyfyng gyda llawer o bobl newydd gynyddu lledaeniad heintiau. Dyma’r cyfle perffaith i heintiau fel clefyd meningococol ledaenu.
Ynglŷn â’r brechlyn
Enwau brand y brechlynnau a ddefnyddir yn y DU yw MenQuadfi® (Saesneg yn unig), Menveo® (Saesneg yn unig) neu Nimenrix® (Saesneg yn unig).
Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi fel rheol fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Arweiniodd cyflwyno rhaglen frechu MenC ym 1999 at ostyngiad sylweddol mewn achosion o glefyd meningococol. Parhaodd hyn yn dilyn cyflwyno’r brechlyn MenACWY yn 2015, ac fe gafwyd gostyngiad pellach yn nifer yr achosion o glefyd MenC a chlefyd MenW.
Ym mis Gorffennaf 2025, rhoddwyd y gorau i roi’r brechlyn Hib/MenC i fabanod 12 mis oed. Felly, y brechlyn MenACWY, a roddir i bobl ifanc 13-14 oed, yw’r unig frechlyn sy’n cynnwys MenC yn yr amserlen reolaidd. Mae cynnal lefelau da o ran y nifer sy’n cael y brechlyn MenACWY yn bwysig er mwyn diogelu pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys dal i fyny â brechiadau a fethwyd. Mae cael y brechlyn MenACWY hefyd yn rhoi imiwnedd torfol. Imiwnedd torfol yw pan y diogelir unigolion yn anuniongyrchol drwy leihau digwydded y clefyd ar draws y boblogaeth.
Mae’n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn MenACWY. Mae hyn am nad oes unrhyw frechlyn yn 100% effeithiol ac mae bacteria eraill a all achosi’r anhwylderau hyn hefyd. Nid yw’r brechlyn MenACWY yn diogelu rhag clefyd Meningococol grŵp B. Mae’r brechiad yn erbyn clefyd MenB yn cael ei gynnig i fabanod.
I gael rhagor o wybodaeth am glefyd meningococol ac arwyddion a symptomau, ewch i:
- Arwyddion a symptomau llid yr ymennydd – Meningitis Now (Saesneg yn unig)
- GIG 111 Cymru – Llid yr Ymennydd
- GIG 111 Cymru – Sepsis
Brechiad Llid yr Ymennydd B (MenB)
Yng Nghymru mae gennym amserlen frechu reolaidd. Mae’r amserlen hon yn dilyn argymhellion cyfredol y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Y JCVI sy’n argymell pwy ddylai gael cynnig pa frechlynnau a pha bryd. Gallwch weld amserlen imiwneiddio reolaidd Cymru yma.
Nid yw’r brechlyn MenB yn cael ei gynnig fel mater o drefn i unigolion dros 2 flwydd oed drwy’r GIG. Efallai y bydd rhai pobl sydd wedi’u nodi fel rhai sydd mewn mwy o berygl hefyd yn cael cynnig y brechlyn MenB. Mae hyn yn seiliedig ar argymhellion cyfredol y JCVI. Efallai y bydd y brechlyn MenB ar gael yn breifat. Gallai hyn fod drwy rai practisiau meddygon teulu preifat, fferyllfeydd a chlinigau brechu cyn teithio.
Ewch i gael eich brechlynnau pan gewch chi eu cynnig, er mwyn cael yr amddiffyniad gorau rhag clefydau y gellir eu hatal drwy frechu.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mae’r brechlyn MenACWY yn diogelu’n rhagorol rhag clefyd MenC yn ogystal â rhoi diogelwch ychwanegol rhag y grwpiau meningococol W, A ac Y eraill.
Mae pob un o’r brechlynnau a ddefnyddir yng Nghymru yn cael eu profi ar filoedd o bobl cyn iddynt gael eu cynnig i ni. Mae brechlynnau’n ddiogel ac yn effeithiol. Mae’r brechlyn MenACWY yn bodloni’r holl safonau diogelwch a phan fydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, bydd ei ddiogelwch yn cael ei fonitro’n agos.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgîl-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau.
Mae’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- poen lle rhoddir y pigiad
- poen yn y cyhyrau
- pen tost/cur pen
- teimlo’n sâl yn gyffredinol
Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. Teipiwch enw’r brechlyn.
Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os byddwch yn bryderus, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Adnoddau
Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn MenACWY neu’r clefydau y mae’n diogelu rhagddynt, mae adnoddau ar gael i’ch helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu siarad â’ch practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol am gyngor os oes gennych gwestiynau.
Rhagor o wybodaeth
Mae Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd (Saesneg yn unig) yn elusen flaenllaw yn y DU, yn Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dwyn pobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a sepsis.
Elusen genedlaethol llid yr ymennydd sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig yw Meningitis Now (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 12fed Mai 2026