Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea - Diogelwch ac effeithiolrwydd brechlyn MenB

Ydy’r brechlyn yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn 4CMenB yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

A allaf i ddal gonoroea o hyd ar ôl i mi gael fy mrechu?

Gall y brechlyn 4CMenB leihau eich risg o ddal gonoroea, ond nid yw’n gwarantu na fyddwch chi’n ei ddal. Hyd yn oed ar ôl cael dau ddos, dylech barhau i fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau gonoroea gan nad yw’r un brechlyn 100% yn effeithiol.   

Mae astudiaethau diweddar yn dangos y gall y brechlyn 4CMenB ddarparu amddiffyniad o 30% i 40% rhag gonoroea ymysg pobl sydd mewn perygl uchel o gael eu heintio.  

Prif fantais y brechlyn yw y gall helpu i leihau’r nifer o heintiau gonoroea. Er efallai na fydd yn atal pob achos, mae’n dal yn ddefnyddiol, gan nad yw dal gonoroea unwaith yn eich amddiffyn rhag ei ​​ddal eto.   

Nid yw’r brechlyn 4CMenB yn achosi gonoroea nac yn ei ledaenu.   

Condomau yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun ac eraill rhag gonoroea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys HIV (safle allanol). Mae hefyd yn bwysig cadw teganau rhyw yn lân a rhoi condom newydd arnynt bob tro y byddant yn cael eu defnyddio. Dylech chi gael prawf rheolaidd am gonoroea os oes gennych chi fwy nag un partner rhywiol. Os byddwch chi’n cael diagnosis o gonoroea, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffen eich triniaeth yn unol â chyfarwyddyd eich meddyg neu nyrs.    

Siaradwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol os ydych yn poeni am eich risg o ddal gonoroea neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i wedi cael gonoroea o’r blaen?

Dylech. Gallwch gael eich brechu o hyd os ydych wedi cael gonoroea o’r blaen ac wedi gwella ohono. Gallwch hefyd gael eich brechu os oes gennych gonoroea ar hyn o bryd.

Oeddech chi’n gwybod? Y gallwch gael gonoroea eto hyd yn oed os ydych wedi ei gael o’r blaen.

Oes unrhyw un na ddylai gael y brechlyn 4CMenB?

Ni ellir rhoi’r brechlyn 4CMenB i nifer fach iawn o bobl. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol: 

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu 
  • gynhwysyn yn y brechlyn.  

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol. 

Os oes gennych anhwylder gwaedu, neu system imiwnedd wan, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs clinig cyn i chi gael y brechlyn. 

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Os ydych yn sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn cael brechlyn. Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych amheuon, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi.

Beth os ydw i’n cymryd meddyginiaethau eraill?

Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs am unrhyw feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd neu wedi’u cymryd yn ddiweddar. Dylech hefyd ddweud wrthynt am unrhyw frechiadau eraill rydych wedi’u cael yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai fod yn iawn i chi gael y brechlyn. 

Mae’r brechlyn yn ddiogel i bobl sy’n byw gyda HIV a’r rhai sy’n cymryd PreP. Gallwch hefyd gael y brechlyn yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, gan gynnwys y rhai yn erbyn HPV, brech M, hepatitis A a hepatitis B. 

Beth yw sgil-effeithiau’r brechlyn 4CMenB?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael. Dim ond am ychydig ddyddiau y dylai sgil-effeithiau cyffredin o’r brechlyn bara. 

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn ar ôl brechu yn cynnwys: 

  • poen, cochni neu chwydd lle rhoddir y pigiad i chi 
  • cyhyrau a chymalau dolurus 
  • teimlo’n sâl yn gyffredinol 
  • teimlo’n gyfoglyd, a 
  • chur pen/pen tost 

Dylech aros am 15 munud cyn i chi yrru os byddwch yn teimlo’n wanllyd ar ôl cael y brechiad.  

Os cewch un o’r sgil-effeithiau a restrir uchod, gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â gyrru na defnyddio peiriannau os ydych yn teimlo’n sâl.  

Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am y sgil-effeithiau, ewch i wefan EMC (safle allanol, Saesneg yn unig) . :

Os bydd eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n poeni, cysylltwch â GIG Cymru drwy ffonio 111 neu ffoniwch eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.  

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card, drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn,neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.   

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.     

Beth os oes ofn nodwyddau arna i?

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.

Rydw i’n HIV positif; alla i gael y brechlyn o hyd?

Mae’r brechlyn yn ddiogel i bobl sy’n byw gyda HIV a’r rhai sy’n cymryd PreP.   

Efallai y byddwch eisoes wedi cael dau ddos ​​o 4CMenB os ydych chi’n HIV positif, neu os oes gennych gyflwr sy’n arwain at system imiwnedd wan neu’n cael triniaeth a allai arwain at hynny. Ni argymhellir cael dosau pellach.  

A allaf gael y brechlyn 4CMenB ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir rhoi’r brechlyn ar yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, yn cynnwys rhai yn erbyn HPV, brech M, hepatitis A a hepatitis B. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Mehefin 2025