Neidio i'r cynnwys

Enghraifft o drefn lanhau ar gyfer lleoliadau addysg a gofal plant

Mae iechyd a llesiant ein rhai ifanc yn flaenoriaeth, ond rydym yn gwybod bod heintiau yn gyffredin yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Fodd bynnag, mae’r risg o haint difrifol yn isel i’r rhan fwyaf ohonynt. Gellir cael heintiau mewn lleoliadau amrywiol, boed yn amgylchedd y cartref neu’r gymuned.  Mae lleoliadau gofal plant ac addysgol, lle mae llawer o wahanol bobl yn dod i gysylltiad â’i gilydd, yn un lleoliad cymunedol o’r fath.