Neidio i'r cynnwys

Y model brechwyr cydweithwyr yng Nghymru 2023

Mae mynediad hwylus i frechiadau’r ffliw yn ffactor sy’n dylanwadu ar nifer y gweithwyr gofal iechyd sy’n cael brechiad y ffliw. Gall brechu cydweithwyr helpu i sicrhau bod brechiad y ffliw yn fwy hygyrch i weithwyr gofal iechyd.

Mae’r model brechu cydweithwyr wedi’i sefydlu ledled Cymru ers nifer o flynyddoedd i gefnogi brechu rhag y ffliw ymhlith staff GIG Cymru. Yn hanesyddol roedd yn cael ei hystyried fel ffordd ymarferol o wella mynediad at frechu i staff, yn ogystal â bod yn ffordd ddefnyddiol o annog sgyrsiau gwybodus am imiwneiddio ymhlith cydweithwyr.

Ar ôl y pandemig, nid oedd yn glir a oedd y model hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio’n eang, a oedd bellach yn cynnwys brechiadau eraill, a beth sydd wedi dylanwadu ar unrhyw newidiadau.

Edrychodd arolwg byr ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol ar y pwnc hwn, ynghyd â’r ffordd orau o gefnogi’r model hwn, os yw’n briodol, wrth symud ymlaen.

Mae’r canfyddiadau’n dangos bod y model brechwyr cydweithwyr yn parhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi brechu staff yn GIG Cymru. Mae hyn yn digwydd yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, fel rhan o’r rhaglen genedlaethol i frechu rhag y ffliw.

Mae’r elfennau allweddol sy’n hwyluso’r model yn cynnwys cefnogaeth uwch reolwyr, cefnogaeth gyffredinol, ynghyd â chynllunio cynnar ac adnoddau. Ystyrir bod adnoddau hyfforddi cadarn ac amserol yn bwysig. Ymhlith y rhwystrau mae hyfforddiant hir a beichus, ynghyd â phrinder amser a chapasiti.

Mae’r argymhellion yn cynnwys diweddaru a / neu ddatblygu adnoddau cenedlaethol cyson ar gyfer Cymru gyfan.