Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Gwybodaeth brechu

Amlinella’r dudalen hon gwybodaeth ac adnoddau sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal i darparu’r rhaglenni brechu.

Os oes gennych chi gwestiwn am imiwneiddio, edrychwch ar Y Llyfr Gwyrdd, y PGD perthnasol, ein cronfa helaeth o Gwestiynau Cyffredin a/neu holwch eich cydlynydd / tîm imiwneiddio lleol. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb wedyn, e-bostiwch eich ymholiad at [email protected].

Gwybodaeth

Byddwch yn ymwybodol nad yw adnoddau ar ein tudalennau imiwneiddio a brechu yn cymryd lle barn glinigol ymarferwyr. Dylai ymarferwyr gyfeirio at imiwneiddio rhag clefydau heintus (Llyfr Gwyrdd) (Saesneg yn unig)  Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weinyddu brechlynnau a gweithdrefnau brechu, ar gyfer clefydau heintus y gellir eu hatal drwy frechu yn y DU.

Gellir chwilio am daflenni data a thaflenni cleifion Crynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SPC) ar y Compendiwm Meddyginiaethau electronig (Saesneg yn unig) (cliciwch ar y ddolen, teipiwch enw’r brechlyn (e.e. polio) yn y blwch chwilio, yna cliciwch Go).

Mae MedicinesComplete (Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain gynt (BNF) a nawr yn rhan o MedicinesComplete) hefyd yn ddefnyddiol i gael gwybodaeth am frechlynnau/imiwnoglobwlin penodol:

Mae Grŵp Brechlyn Rhydychen yn darparu gwybodaeth am frechlynnau, clefydau heintus, diogelwch a gwyddor brechlynnau. Mae’r grŵp wedi llunio adnodd defnyddiol sy’n amlinellu’r cynhwysion mewn brechlynnau (yn yr adran diogelwch a gwyddor brechlynnau).

Gallwch arechebu taflenni, posteri ac adnoddau brechu eraill o Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.

Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022. Fe’i datblygwyd i adeiladu ar y ddarpariaeth ragorol o raglenni brechu ac imiwneiddio ac i baratoi’r ffordd ar gyfer trawsnewid brechlynnau yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn nodi 6 maes blaenoriaeth allweddol i ganolbwyntio arnynt: tegwch brechu; brechu wedi’i alluogi’n ddigidol; cymhwysedd; llythrennedd brechu cyhoeddus; defnyddio; a llywodraethu.

Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol sy’n rhoi cyngor imiwneiddio i awdurdodau iechyd y DU, gan gynnwys amserlenni brechu ac argymhellion diogelwch brechlynnau. Yng Nghymru, mae ganddo gyfrifoldeb statudol.

Mae gwefan y JCVI (Saesneg yn unig) yn cynnwys gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, cofnodion cyfarfodydd, cyhoeddiadau, datganiadau, cyngor, argymhellion, a dolen i gynnwys wedi’i archifo.

Y Llyfr Gwyrdd

Mae’r Llyfr Gwyrdd (Saesneg yn unig) yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu, ar gyfer clefydau heintus y gellir eu hatal drwy frechu yn y DU.

Amserlenni brechu

Mae’r amserlen imiwneiddio gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a brechiadau nad ydynt yn rheolaidd.

Amserlenni: Y DU a gwledydd eraill

Mae amserlen imiwneiddio rheolaidd y DU yn cwmpasu pob plentyn ac oedolyn. Argymhellir brechlynnau ychwanegol ar gyfer rhai unigolion risg uchel e.e.. Brechlynnau Hep B, BCG, niwmococol a meningococol. I gael rhagor o wybodaeth gweler penodau perthnasol y Llyfr Gwyrdd.

Gwybodaeth:

Gall cymhwysedd am brechlyn fod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer rhai rhaglenni.

Brechu unigolion sydd â statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn

Mae’r ddolen isod yn rhoi nodyn atgoffa, yn seiliedig ar y Llyfr Gwyrdd, i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i frechu pobl yn gywir i’w hamddiffyn nhw a’u teuluoedd rhag clefydau.

Cyfeiriwch at Bolisi Cymru Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B ar wefan llywodraeth Cymru am wybodaeth bellach.

Unigolion sy’n cael eu brechu yn unol ag amserlen y tu allan i’r DU

Os nad yw’n hysbys a yw plant ac oedolion sy’n dod i’r DU wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr, dylid tybio nad ydynt wedi’u himiwneiddio a dylid cynllunio cwrs llawn o imiwneiddiadau.

Gweler amserlenni imiwneiddio yn y DU a gwledydd eraill uchod am ddolenni i wybodaeth am amserlenni imiwneiddio.

Imiwneiddio unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes

Gellir dod o hyd i brotocolau imiwneiddio ar gyfer cleifion ar ôl trawsblaniad a phobl â chanser neu lewcemia isod:

Oedolion

Plant

Nodyn: Cyfeiriwch at newidiadau cenedlaethol y rhaglen imiwneiddio plentyndod ochr yn ochr â’r canllawiau protocol canlynol.

Imiwneiddio staff gofal iechyd a labordy

Mae Pennod 12 y Llyfr Gwyrdd (Saesneg yn unig) yn cynnwys gwybodaeth am imiwneiddio i weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol.

Imiwneiddio yn ystod beichiogrwydd

Cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol ar fenywod beichiog sy’n cael eu brechu’n anfwriadol (Saesneg yn unig) rhag brech yr ieir, yr eryr neu’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela.

Tegwch brechu

Mae’r dudalen mynediad teg at frechlynnau yng Nghymru yn cynnwys adnoddau a chanllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill i gefnogi GIG Cymru i leihau annhegwch ac anghydraddoldebau o ran rhoi’r brechlyn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13eg Mehefin 2025