Strategaeth llythrennedd brechu ymysg y cyhoedd
Cyhoeddwyd Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol (NIF) Cymru ym mis Hydref 2022. Mae’r fframwaith yn pennu’r blaenoriaethau strategol eang ar gyfer gwasanaethau brechu ledled Cymru ac mae’n gosod gweledigaeth ar gyfer dyfodol imiwneiddio yng Nghymru. Y nod yw bod nifer uchel o bobl yn derbyn brechlyn effeithiol a ddarperir yn gynaliadwy, ar yr adeg iawn, i leihau marwolaethau ac afiachedd.
Mae hefyd yn cydnabod bod angen gwasanaethau brechu sy’n glir, fel bod dinasyddion yn gwybod pa frechiadau y maent yn gymwys i’w cael a sut i’w cael.
Mae llythrennedd brechu ymhlith y 6 blaenoriaeth yn yr NIF, sy’n disgrifio’r canlyniadau dymunol a ganlyn:
- Rydym am i bawb yng Nghymru gydnabod pwysigrwydd brechu a mynediad a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechiad.
- Meddu ar wybodaeth glir a chyfathrebu cadarn sy’n hanfodol i alluogi’r cyhoedd i ddeall pwysigrwydd brechu.
- Dylid cydgynhyrchu deunyddiau gwybodaeth i gleifion gyda dinasyddion, y trydydd sector a chyrff perthnasol y GIG.
- Gweithlu’r GIG sy’n cydnabod pwysigrwydd brechu, a’u rôl o ran annog pobl i gael eu brechu ac o ran bod yn esiampl i eraill.
- Rhoddir ystyriaeth i sut y gall lleisiau y mae pobl yn ymddiried ynddynt gefnogi rhaglenni brechu drwy ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o frechu ymysg grwpiau â lefelau is o ran derbyn brechiadau a grwpiau agored i niwed.