Neidio i'r cynnwys

Brechlyn meningococol grŵp B (MenB) - Am y brechlyn MenB

Y brechlyn MenB yw’r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o helpu i amddiffyn rhag llid yr ymennydd a septisemia a achosir gan facteria meningococol grŵp B. 

Bydd babanod fel arfer yn cael y brechlyn MenB trwy bigiad yn eu coes uchaf (clun). Bydd plant hŷn ac oedolion fel arfer yn ei gael trwy bigiad yn eu braich uchaf. 

Bexsero, y brechlyn MenB, yw’r unig frechlyn sy’n cynnig amddiffyniad rhag bacteria meningococol grŵp B sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd. I gael rhagor o fanylion, ewch i: 

Bydd angen tri dos o’r brechlyn MenB ar fabanod i gael eu hamddiffyn yn llawn. Dylai plant sydd wedi methu brechiadau ac sydd wedi cael llai na dau ddos ​​o’r brechlyn MenB yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd gael dosau pellach cyn iddynt gyrraedd dyflwydd oed. 

Ni roddir brechlyn MenB fel mater o drefn i blant dros ddyflwydd oed oni bai eu bod mewn grŵp sydd mewn perygl. Er enghraifft, plant sydd â phroblemau penodol gyda’u system imiwnedd.  

Siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y practis i gael cyngor os yw eich plentyn wedi methu dosau neu os ydych chi mewn grŵp sydd mewn perygl. 

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal llid yr ymennydd a septisemia a achosir gan haint llid yr ymennydd B. Nid oes yr un brechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.   

I gael rhagor o wybodaeth am lid yr ymennydd a septisemia, ewch i:  

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Imiwneiddio babanod

Fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol yng Nghymru, cynigir y brechlyn MenB i fabanod yn:

  • wyth wythnos oed;
  • 16 wythnos oed; a
  • 12 i 13 mis (brechlyn atgyfnerthu).

I gael rhagor o wybodaeth am amseriad y dos 12 wythnos, ewch i dudalen newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.

Imiwneiddiadau nad ydynt yn rhai rheolaidd

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu’r risg o heintiau difrifol. Efallai y bydd angen y brechlyn MenB ar bobl sydd â’r cyflyrau hyn. Mae’r cyflyrau’n cynnwys:

  • heb ddueg neu â dueg sydd ddim yn gweithio’n dda iawn (gan gynnwys oherwydd clefyd y crymangelloedd a seliag); a
  • problemau gyda’r system imiwnedd (anhwylderau ategu).

Alergeddau 

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i fabanod sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i: 

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu  
  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. 

Siaradwch â’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn os yw eich baban wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol. 

Gallwch gysylltu â’ch practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau am y brechlyn MenB, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylai eich baban neu blentyn ei gael. 

Sgîl-effeithiau’r brechlyn

Y sgîl-effaith fwyaf cyffredin a welir gyda’r brechlyn MenB mewn babanod yw gwres neu dymheredd uchel. Mae sgîl-effeithiau cyffredin eraill y brechlyn MenB yn cynnwys:

  • poen, chwyddo neu gochni ar safle’r pigiad;
  • taflu i fyny neu ddolur rhydd (neu’r ddau); a
  • crïo ac anniddigrwydd.

Argymhellir bod babanod yn cael paracetamol hylif babanod i atal gwres ar ôl cael eu brechu. Bydd y nyrs yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y paracetamol yn eich apwyntiad brechu.

Mae’n syniad da cael rhywfaint o hylif paracetamol babanod gartref cyn yr ymweliad brechu dau fis. Gallwch ei brynu o fferyllfeydd neu archfarchnadoedd lleol. Peidiwch byth â rhoi’r hylif paracetamol cryfder uwch a ddefnyddir ar gyfer plant hŷn i fabanod. Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i fabi.

Gweler y cwestiynau cyffredin isod i gael rhagor o wybodaeth am baracetamol hylif i fabanod. 

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, gweler: 

Cysylltwch â GIG 111 Cymru (safle allanol) drwy ffonio 111 os ydych chi’n poeni am symptomau. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig) neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Pryd ddylwn i roi paracetamol i fy maban ar ôl iddo gael ei frechiad?  

Gallai eich baban gael twymyn ar ôl unrhyw frechiad, ond mae’n fwy cyffredin pan roddir y brechlyn MenB gyda’r brechiadau babanod rheolaidd eraill. Bydd rhoi paracetamol i’ch baban yn fuan ar ôl iddo gael ei frechiad a pheidio ag aros i dwymyn ddatblygu yn lleihau’r risg o ddatblygu twymyn. 

Rhowch y dos cyntaf o baracetamol cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch baban gael ei frechiad. Rhowch baracetamol hylif cryfder addas i fabanod (120mg/5ml) yn unig. Ar gyfer babanod cynamserol iawn (a aned cyn 32 wythnos), dylai meddyg roi paracetamol ar bresgripsiwn iddynt.  

Dosau paracetamol ar ôl y ddau frechiad MenB cyntaf 

Rhowch hanner llwy de (2.5ml) trwy ddefnyddio’r llwy neu’r chwistrell a ddarperir gyda’r feddyginiaeth i fabanod rhwng wyth wythnos a chwe mis oed. 

Oed y baban Fel arfer yn 8 wythnos hyd at 6 mis oed 
Dos 1 Un dos 2.5ml (60mg) cyn gynted â phosibl ar ôl y brechiad. 
Dos 2 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl y dos cyntaf. 
Dos 3 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl yr ail ddos. 

Dilynwch yr amserlen hon ar ôl pob un o’r ddau frechiad MenB cyntaf. 

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol ar ôl i’ch baban gael y brechlyn MenB. Os bydd twymyn ar eich baban ar unrhyw adeg arall, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau a’r cyngor am y dos a roddir ar y pecyn cynnyrch a’r daflen wybodaeth i gleifion. 

Gwnewch yn siŵr fod gennych baracetamol cryfder addas i fabanod cyn apwyntiad brechu cyntaf eich baban. Gallwch ei brynu mewn fferyllfa neu archfarchnad.  

Peidiwch â rhoi’r dos cyntaf cyn eich apwyntiad brechu, gan fod angen i’r nyrs wirio am arwyddion o heintiau cyfredol, a allai olygu gohirio’r brechiad. 

Beth os bydd gan fy maban dwymyn o hyd ar ôl cael y tri dos o baracetamol?  

  • Efallai y bydd rhai babanod dal yn datblygu twymyn ar ôl eu brechiad, hyd yn oed os byddant wedi cael tri dos o baracetamol. 
  • Yn ystod y 48 awr ar ôl cael y brechiad, os bydd gan eich baban dwymyn o hyd a’i fod yn iach fel arall, gallwch barhau i roi’r un dos o 2.5 ml (60mg) o baracetamol hylif cryfder addas i fabanod (120mg/5ml) iddo.  
  • Arhoswch o leiaf bedair awr rhwng dosau bob amser a pheidiwch byth â rhoi mwy na phedwar dos mewn 24 awr.  
  • Cadwch eich baban yn lled oer drwy wneud yn siŵr nad oes ganddo ormod o haenau o ddillad neu flancedi a rhowch ddigon o hylifau iddo. Os yw eich baban yn cael ei fwydo ar y fron, llaeth y fron yw’r hylif gorau i’w roi iddo. 

Os bydd gan eich baban dwymyn 48 awr ar ôl cael y brechiad, neu os ydych yn pryderu am iechyd eich baban ar unrhyw adeg: 

  • gwrandewch ar eich greddf a siaradwch â’ch meddyg teulu, neu 
  • cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111. 

A oes angen paracetamol ar fy maban ar ôl pob brechiad MenB?  

Bydd angen paracetamol ar eich baban ar ôl brechiadau MenB a roddir  pan fydd dan 12 mis oed.

Fodd bynnag, nid oes angen paracetamol fel mater o drefn ar ôl y brechlyn MenB a roddir ar ôl iddo fod yn 12 mis oed. Mae hyn oherwydd y bydd llai o risg o gael twymyn erbyn iddo gyrraedd yr oedran hwn.  

Gwybodaeth:

Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed. 

Gwybodaeth i’r cyhoedd

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y brechlyn MenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau. 

Gwybodaeth bellach

Mae Meningitis Research Foundation (safle allanol, Saesneg yn unig) yn elusen flaenllaw yn y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dod â phobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.

Mae Meningitis Now (salfe allanol, Saesneg yn unig) yn elusen genedlaethol ar gyfer llid yr ymennydd sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Medi 2025