Neidio i'r cynnwys

Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru fonitro heintiau sy’n gysylltiedig â gofal Iechyd, trwy gadw gwyliadwriaeth. Mae’r rhaglen HARP yn cyflawni’r gwaith cadw gwyliadwriaeth hwn ar ran Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru. Mae labordai ar draws Cymru yn cyflwyno canlyniadau profion ar samplau cleifion. Mae rhaglen HARP yn gallu cael at ganlyniadau’r profion, a’u dadansoddi a’u defnyddio i gynhyrchu dangosfyrddau data o dueddiadau.

Bacteraemia

Mae Bacteraemia yn digwydd pan fydd bacteria (bygiau) yn mynd i mewn i’r llif gwaed. Gall hyn arwain at heintiau mewn rhannau eraill o’r corff, gan gynnwys sepsis sy’n peryglu bywyd. Mae mesurau atal heintiau yn yr ysbyty, fel golchi dwylo a glanhau, yn ceisio atal cleifion rhag dal bacteria.

Mae’r rhaglen HARP yn cydweithio â byrddau iechyd Cymru i leihau’r risg y bydd cleifion yn datblygu bacteraemia mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill.

Clostridioides difficile

Bacteriwm (byg) sy’n gallu achosi dolur rhydd a chlefydau difrifol eraill y perfedd yw Clostridioides difficile (neu Cdiff). Fel arfer mae’n effeithio ar bobl sydd wedi cymryd gwrthfiotigau yn ddiweddar. Mae mesurau atal heintiau yn yr ysbyty, fel golchi dwylo a glanhau, yn ceisio atal cleifion rhag dal bygiau fel Cdiff. Mae newidiadau mewn arferion presgripsiynu gwrthfiotigau hefyd yn ceisio atal cleifion rhag dal Cdiff. Mae newidiadau mewn presgripsiynu gwrthfiotigau hefyd yn ceisio atal cleifion rhag cael salwch Cdiff.

Mae’r rhaglen HARP yn cydweithio â byrddau iechyd Cymru i leihau’r risg y bydd cleifion yn datblygu Cdiff mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill.

Gwyliadwriaeth heintiau clwyf llawfeddygol (SSI)

Sefydlwyd rhaglen wyliadwriaeth Heintiau Clwyf Llawfeddygol (HCLl) Cymru yn 2003 i amcangyfrif y risg o haint ar ôl cael llawdriniaeth, yn benodol ar ôl i rywun gael clun a phen-glin newydd. Ar ôl ehangu’r rhaglen yn 2006 roedd gweithwyr yn gallu pennu heintiau clwyf llawfeddygol ar ôl llawdriniaethau toriad Cesaraidd. Yn 2018, cynhaliwyd peilot i edrych ar heintiau clwyf llawfeddygol ar ôl llawdriniaethau ar y colon a’r rhefr, ond nid yw’r heintiau hyn yn cael eu monitro ar lefel genedlaethol eto.

Cesglir data ar yr holl lawdriniaethau dewisol (cynlluniedig) a brys ac ar gyfer llawdriniaethau aildderbyn/adolygu (ar gluniau a phen-gliniau). Mae’r data a gesglir yn cynnwys manylion demograffig y claf, gwybodaeth am y llawdriniaeth ei hun a gofal y claf ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys manylion am heintiau clwyf sy’n datblygu, h.y. heintiau yn y man lle agorwyd y croen i gyflawni’r llawdriniaeth angenrheidiol. Fel rhan o’r rhaglen, rydym yn cynnal dadansoddiad o’r data, yn adrodd ar gyfraddau heintiau a thueddiadau ar gyfer y llawdriniaethau gorfodol ledled Cymru. Mae tîm HARP yn cydweithio â’r byrddau iechyd yng Nghymru i leihau’r risg y bydd cleifion yn datblygu HCLl.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data