Newid hinsawdd a chynaliadwyedd
Rydym yn ymdrechu i adeiladu dyfodol sy’n amddiffyn pobl a’r blaned, lle gall bawb fwynhau bywydau hirach ac iachach, nawr ac yn y dyfodol. I wneud hyn mae angen i ni fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu Cymru heddiw.
Rydym yn cymryd camau i –
- Leihau ein hallyriadau a’n hôl troed carbon (gwaith lliniaru); a
- Pharatoi ar gyfer hinsawdd sy’n newid a’r effeithiau a gaiff hynny ar iechyd ac ar ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus (addasu).
Mae’r gwaith hwn yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r egwyddor datblygu cynaliadwy; mae’r rhain yn hyrwyddo meddwl hirdymor, gwaith atal, cydweithredu a chyfranogiad ac integreiddio, ac i’r egwyddorion hynny fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Trafnidiaeth Cymru yn ogystal â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd eraill GIG Cymru.
Diogelu iechyd mewn hinsawdd sy’n newid
Mae newid hinsawdd yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru. Rydym yn gweithio i ddeall pa effaith gaiff newid hinsawdd ar y gwasanaethau iechyd cyhoeddus rydym yn eu darparu, yn ogystal â’r effeithiau ar iechyd y boblogaeth, gan sicrhau bod gennym gynlluniau ar waith i barhau â’n gwaith wrth i’r hinsawdd newid.
Dysgwch fwy am sut rydym yn monitro ac yn ymateb i effeithiau newid hinsawdd ar iechyd yma.
Manteision iechyd gweithredu ar newid hinsawdd
Bydd y datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd yn darparu llu o fanteision i’n hiechyd. Trwy weithredu nawr i leihau ein hallyriadau a’n heffaith ac addasu i hinsawdd sy’n newid, gallwn amddiffyn a gwella iechyd a llesiant o ganlyniad i aer glanach, ynni gwyrddach, teithio’n iach, bwyd cynaliadwy a chymunedau gwyrddach.
- Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi yn lleihau’r galw am ynni, gan liniaru tlodi tanwydd a gwella canlyniadau iechyd.
- Gall teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus leihau allyriadau a llygredd, gwella ansawdd aer, cynyddu gweithgarwch corfforol a lleihau niwed i iechyd gan gerbydau.
- Gall mynediad at fannau gwyrdd wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, cefnogi ymddygiadau iach, gwella cydlyniad cymdeithasol. Mewn trefi a dinasoedd, gall mannau gwyrdd helpu i leihau’r risg o lifogydd a bod yn gysgod mewn tywydd poeth hefyd.
Bydd rhoi iechyd a thegwch wrth wraidd ein gweithredoedd ar newid hinsawdd yn ein helpu i gyflawni’r cyd-fanteision hyn.
Lleihau ein hôl troed carbon
Rhaid gweithredu nawr i fynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd, ac mae o fewn ein gallu i wneud hynny. I ni, mae hyn yn golygu bod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae sero net yn golygu cydbwyso allyriadau nwy sy’n cynhesu’r blaned gyda’r swm a dynnir o’r atmosffer. Yn syml, mae’n golygu na fyddwn yn ychwanegu at gyfanswm y nwyon hyn mwyach, er mwyn helpu i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd.
Mae Ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn dod â’n camau gweithredu ynghyd ac yn helpu i fonitro ein cynnydd.
Dysgwch fwy am ein gwaith i leihau ein hôl troed carbon yma.
Blaenoriaethu atal
Mae iechyd da yn hawl sylfaenol, ond mae canlyniadau iechyd yn amrywio’n annheg ar draws cymunedau Cymru.
Mae’r adroddiad ‘Buddsoddi mewn Cymru Iachach: blaenoriaethu atal’ a gyhoeddwyd yn 2025 yn amlinellu sut mae buddsoddi mewn atal yn gosod y sylfaen ar gyfer iechyd da drwy gydol bywydau pobl ac yn tynnu sylw at y meysydd a allai gael yr effaith fwyaf.
Er enghraifft, gall mynediad at fannau gwyrdd a mannau glas wella iechyd meddwl, ac gall pob £1 sy’n cael ei wario ar hyn ddarparu enillion cymdeithasol sydd werth rhwng £0.79 a £28.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar raglenni hirdymor ac ar ymyriadau wedi’u targedu sy’n anelu at wella canlyniadau iechyd, lleihau anghydraddoldebau a lleihau effaith ariannol iechyd gwael ar y GIG a chymdeithas ehangach yng Nghymru.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar fuddsoddi mewn Cymru iachach.
Hyrwyddo natur
Mae amgylchedd iach yn cefnogi ein systemau bwyd, yn cynnal ansawdd ein aer a’n dŵr, ac yn ein helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd trwy ein hamddiffyn rhag llifogydd a thrwy ddal carbon. Mae ein hiechyd meddwl a chorfforol, ein hunaniaeth a’n diwylliant hefyd â chysylltiad dwfn â natur.
Ond mae bywyd gwyllt yn dirywio, a bydd colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein hiechyd corfforol a’n llesiant meddyliol. Rydym yn hyrwyddo natur er mwyn cael dyfodol iach. Mae hyn yn golygu rhannu manteision y gall natur ei gynnig i’n hiechyd a’n llesiant, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chefnogi mwy o fynediad at fannau gwyrdd yn ein cymunedau.
- Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn dangos sut rydym yn gwneud i hyn ddigwydd, ac mae ein hadroddiad diweddaraf ar fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Cefnogi’r sector gofal iechyd
Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn helpu lleoliadau gofal sylfaenol, gan gynnwys practisau meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol, practisau optometreg a phractisau deintyddol, i wella eu cynaliadwyedd a’u heffaith amgylcheddol.
Gallwch ymuno â’r fframwaith ar-lein yn rhad ac am ddim, ac mae’n cefnogi gweithredu ar draws ystod eang o gategorïau clinigol ac anghlinigol. Ar ôl cofrestru, gall practis weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur yn dibynnu ar sawl cam y maen nhw’n ei gwblhau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]
Hyrwyddo gweithredu
Er mwyn diogelu iechyd ein cenedl a’n planed, rhaid i ni gyd wneud newidiadau bychain i’r ffordd rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Rydym yn cefnogi ein staff i gael gwell dealltwriaeth o newid hinsawdd a chynaliadwyedd, ac yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw wneud dewisiadau iach, mwy cynaliadwy. Mae ein Rhwydwaith Eiriolwyr Gwyrdd yn annog cydweithwyr i weithredu ac i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Cymerwch olwg ar y dolenni isod am syniadau ac ysbrydoliaeth ar sut y gallwch chi weithredu.
- Gweithredu ar Hinsawdd Cymru – yma cewch awgrymiadau ymarferol i wneud dewisiadau gwyrddach, straeon ysbrydoledig am newid cadarnhaol, a chipolwg ar fanteision anhygoel mynd yn wyrdd.
- Lleihau allyriadau carbon – mae’r ffeithlun yma’n dangos camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i amddiffyn iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.
- The Wildlife Trusts (Saesneg yn unig) – awgrymiadau gan yr Ymddiriedolaethau Natur ar sut y gallwch helpu natur yn eich gardd neu fannau gwyrdd lleol.
- Our Health. Our Planet (Saesneg yn unig) – gwefan sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd yn gyffredinol, er mwyn i’r system iechyd helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd.
Y Gyfres Camau Cynaliadwy: Mae’r e-ganllawiau hyn yn helpu timau ac unigolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd ac i wneud dewisiadau cynaliadwy yn y gwaith a gartref
Yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd
Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgorffori cynaliadwyedd ac i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gysylltu â’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd ar gael yma.
Pynciau cysylltiedig
Efallai y bydd gennych ddiddordeb darllen ein tudalennau ar Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Annhegwch Iechyd, Tai, Iechyd rhyngwladol, a phenderfynyddion ac anghydraddoldebau ehangach.
Darllen pellach
Mae amrywiaeth o gyhoeddiadau ar gael i gefnogi’ch chwiliad:
Gweld yr holl ddeunyddiau cyfeirio sy’n ymwneud â newid hinsawdd a chynaliadwyedd.