Tanau gwyllt
Mae tywydd sych a daear sych yn ei gwneud hi’n haws i danau gwyllt ddechrau.
Mae mwg o danau gwyllt yn gallu poeni’r llygaid, y trwyn a’r gwddf. Gall hefyd achosi peswch, gwichian yn y frest a phoen a phrinder anadl.
I’r rhan fwyaf o bobl, bydd y symptomau hyn yn diflannu’n gyflym iawn ac ni fydd unrhyw broblemau iechyd hirdymor.
Os oes tanau gwyllt yng nghyffiniau eich cartref
- Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
- Dilynwch y cyngor gewch chi gan y gwasanaethau brys.
- Arhoswch y tu mewn i adeilad a chadwch y ffenestri a’r drysau ar gau.
- Diffoddwch unrhyw offer aerdymheru.
- Os oes rhaid i chi fynd allan pan fydd tân, dylech osgoi neu gyfyngu ar yr amser y byddwch mewn mannau sydd wedi’u heffeithio gan fwg neu lwch.
- Os ydych chi’n teithio, cadwch ffenestri ac awyrellau eich cerbyd ar gau a diffoddwch yr aerdymheru.
- Cofiwch fynd â’ch mewnanadlydd gyda chi os oes ei angen.
- Os oes gennych chi symptomau sy’n parhau ar ôl i chi fynd i mewn o’r mwg neu’r lludw, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu GIG 111.
Cadw’r amgylchedd a chi eich hun yn ddiogel
- Peidiwch â chynnau tân.
- Ewch am bicnic yn hytrach na barbeciw.
- Byddwch yn ofalus iawn gyda bonion sigaréts.
- Cliriwch bob sbwriel, poteli a phob gwydr sydd wedi torri. Gall gwydr yn yr haul weithio fel chwyddwydr a dechrau tân.