Ynglŷn â sgrinio clyw babanod - Y clinig awdioleg – canlyniadau
Pryd fyddaf i’n cael y canlyniadau?
Bydd yr awdiolegydd yn esbonio’r hyn mae pob un o’r profion yn ei ddangos.
Os nad oes angen gwneud mwy o brofion, bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffyrdd mae babanod yn ymateb i sain wrth iddyn nhw dyfu. Bydd hefyd yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni o gwbl am glyw eich babi.
Os oes angen gwneud mwy o brofion, bydd yr awdiolegydd yn esbonio pa adeg yw’r un orau i’w gwneud.
Pa mor debygol yw hi fod colled ar glyw fy mabi?
Bydd 1 neu 2 ym mhob 1,000 o fabanod sy’n cael eu geni yn profi colled clyw yn y ddwy glust.
Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall yn byw gyda cholled clyw. Mae nifer llai o fabanod yn cael eu geni gyda cholled clyw mewn un glust. Gall baban yr oedd angen gofal arbennig arno ar ôl ei eni fod yn fwy tebygol o fod â cholled clyw. Bydd un ym mhob 10 baban sy’n cael y prawf hwn yn profi colled clyw.
Beth fydd yn digwydd os ganfyddir fod gan fy maban golled clyw?
Ar ôl i holl brofion eich baban gael eu gwneud bydd yr Awdiolegydd yn esbonio’r canlyniadau i chi ac efallai y bydd yn rhoi un o’r taflenni gwybodaeth canlynol i chi:
- Taflen ANSD i Rieni
- Taflen Colled Clyw Ysgafn i Rieni
- Taflen Clust Ludiog i Rieni
- Taflen Colled Clyw Unochrog i Rieni
- Taflen Mae colled clyw ar eich baban
Bydd yr Awdiolegydd yn trefnu i chi gwrdd ag un o’r Meddygon Arbenigol sy’n cefnogi babanod a theuluoedd sydd â cholled clyw.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Mae gan y gymdeithas linell gymorth i rieni a theuluoedd a hoffai wybodaeth am brofion clyw ac unrhyw fath o golled clyw yn ystod plentyndod.
Llinell gymorth rhadffôn: 0808 800 8880
SMS: 0786 22 22 888
E-bost: [email protected]
Gwefan: www.ndcs.org.uk
Interpreter Now: https://interpreternow.co.uk/ndcs
Mae dulliau eraill o gysylltu hefyd ar gael, gweler: https://www.ndcs.org.uk/our-services/services-for-families/helpline
Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os ydych yn awyddus i siarad â rhywun am glyw eich babi, cysylltwch â ni.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Mai 2025