Ynglŷn â sgrinio clyw babanod - Y sgrin - profion
Sut byddwch chi’n sgrinio clyw fy baban?
Mae dau fath o brawf.

Rhoddir clustffon bach â blaen meddal yn rhan allanol clust eich baban. Mae’r clustffon yn gwneud sain clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich baban yn ymateb i’r sain. Gelwir y prawf hwn yn Allyriadau Otoacwstig Awtomataidd (AOAE).

Os na fydd yr offer yn codi ymateb clir, gall y sgriniwr wneud prawf gwahanol. Rhoddir tri phad bach gludiog ar ben a gwddf eich baban. Mae clustffonau bach yn cael eu rhoi dros glustiau eich baban, a fydd yn gwneud sain clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich baban yn ymateb i’r sain. Gelwir y prawf hwn yn Brawf Ymateb Ymennydd Clywedol Awtomataidd (AABR).
Pryd fydd y prawf yn cael ei wneud?
Bydd dros 70% o fabanod yn cael y prawf sgrinio yn ystod yr wythnos gyntaf o’u hoes, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rydym yn anelu at sgrinio’r mwyafrif o fabanod cyn iddyn nhw fod yn bedair wythnos oed. Efallai na fydd hyn yn digwydd os cafodd eich babi ei eni’n gynnar neu os yw’n wael ei iechyd ac angen gofal arbennig. Mewn achos o’r fath bydd y sgriniwr yn esbonio pa adeg yw’r un orau i sgrinio clyw eich babi.
Ble fydd y prawf yn cael ei wneud?
Rydyn ni’n ceisio sgrinio cymaint o fabanod â phosib yn yr ysbyty felly rydyn ni’n gobeithio cynnig y prawf i’ch baban cyn i chi fynd adref. Os na chaiff y prawf ei wneud yn yr ysbyty, caiff ei gynnig yn y gymuned, mewn clinig lleol fel arfer. Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn bresennol oherwydd efallai y byddwn yn gallu cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall.
Mae’n ddefnyddiol mynd â sedd, bygi neu bram eich baban gyda chi i’r apwyntiad hwn. Mae angen i’ch baban fod yn dawel neu’n cysgu ar gyfer y prawf sgrinio, felly mae’n helpu os yw’r baban newydd gael ei fwydo. Mae’r sgriniwr yn cymryd caniatâd ysgrifenedig ar gyfer y prawf, felly os mai hwn yw apwyntiad sgrinio cyntaf eich baban, mae angen i rywun â chyfrifoldeb rhiant ddod â’r baban i’r apwyntiad. Mae’r ‘Rhestr Wirio Cyfrifoldeb Rhiant’ a anfonwyd gyda’ch llythyr apwyntiad clinig yn dweud wrthych pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Sut bydd y prawf yn cael ei wneud?
Bydd y prawf yn cael ei wneud gan sgriniwr. Cynhelir y prawf sgrinio tra bydd eich baban yn dawel neu’n cysgu. Ni fydd y prawf yn brifo nac yn niweidio eich baban a dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd. Gallwch aros gyda’ch baban tra bydd y prawf yn cael ei wneud.
Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd.
Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynd i gael eich sgrinio os ydych yn sâl.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am apwyntiad sgrinio eich babi, neu os oes angen dehonglydd arnoch i’ch cefnogi yn ystod yr apwyntiad.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026