Cwestiynau cyffredin sgrinio clyw babanod
Colli clyw a chlyw
Pam sgrinio clyw fy maban?
Mae rhai babanod yn cael eu geni â cholled clyw. Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes neb arall yn byw gyda cholled clyw. Mae canfod colled clyw yn gynnar yn bwysig i ddatblygiad eich baban. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael mwy o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch baban.
Mae sgrinio clyw yn ein helpu i adnabod babanod a allai fod â cholled clyw. Gall y prawf ganfod colled clyw yn gynnar fel y gellir rhoi cymorth.
Nid yw sgrinio yn canfod pob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.
Pa mor debygol yw hi fod colled ar glyw fy mabi?
Mae un neu ddau o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni â cholled ar glyw’r ddwy glust. Bydd y mwyafrif o’r babanod hyn yn perthyn i deuluoedd sydd heb unrhyw un arall â cholled ar eu clyw. Mae llai o fabanod yn cael eu geni â cholled ar glyw un glust. Efallai fod babi oedd angen gofal arbennig yn fwy tebygol o fod â cholled ar ei glyw.
Mae sgrinio clyw’n ffordd i ni adnabod babanod a allai fod â cholled ar eu clyw. Mae’r prawf sgrinio’n dangos pa fabanod sydd angen mwy o brofion er mwyn penderfynu a oes colled ar eu clyw. Bydd y profion hyn ar gael mewn clinig arbennig mewn ysbyty.
Mae cael gwybod am y broblem yn gynnar yn gyfle i chi a’ch babi gael cymorth a gwybodaeth o’r dechrau un.
Bydd colled barhaol ar glyw un o bob 10 o fabanod sy’n cael eu cyfeirio at Awdiolegydd i gael prawf clyw arall.
Beth yw colled ar y clyw?
Mae dau fath o golled ar y clyw, colled synwyrnerfol a cholled ddargludol. Mae’r math o golled sydd ar eich babi’n dibynnu ar ble yn y glust y mae’r broblem.
Mae gwahanol lefelau o golled ar y clyw. Gall olygu byddardod ysgafn, cymedrol, dwys neu lwyr. Gall eich awdiolegydd esbonio’r seiniau y gall eich babi eu clywed a’r rhai y bydd yn ei chael hi’n anodd eu clywed. Mae’n annhebygol iawn na fydd eich babi’n gallu clywed unrhyw seiniau o gwbl.
Colled synwyrnerfol ar y clyw
Mae colled synwyrnerfol (sydd weithiau’n cael ei alw’n fyddardod nerfol) yn golled barhaol ar y clyw. Fel arfer, mae’n golygu bod problem yn y cochlea, sy’n rhan o’r glust fewnol.
Mae’r mwyafrif o fabanod â cholled synwyrnerfol yn cael eu geni i deuluoedd sydd heb unrhyw un arall sy’n fyddar, er y gallai’r fath golled gael ei hetifeddu weithiau. Mae nifer o bethau’n gallu achosi colled synwyrnerfol ar y clyw: heintiau yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth gynnar neu broblemau adeg y geni. Gallai fod yn rhan o gyflwr arall neu’n gysylltiedig ag anawsterau eraill. Mae colled ar y clyw’n gallu datblygu yn sgil heintiau plentyndod fel twymyn doben (clwy pennau), y frech goch neu lid yr ymennydd.
Gall plant â cholled synwyrnerfol ar eu clyw fod â cholled ddargludol dros dro hefyd.
Colled ddargludol ar y clyw
Mae colled ddargludol yn golygu nad yw seiniau’n gallu symud trwy’r glust allanol a’r glust ganol i’r glust fewnol. Mae colled ddargludol yn digwydd dros dro fel arfer, ond gallai olygu colled barhaol ar glyw nifer bach iawn o fabanod.
Achos mwyaf cyffredin colled ddargludol ar y clyw yw hylif yn y glust ganol. Achos llai cyffredin yw problem yn y ffordd mae’r glust allanol a’r glust ganol wedi datblygu.
Pa gymorth sydd ar gael os oes gan fy maban golled clyw?
Bydd y cymorth sydd ar gael yn seiliedig ar y math o golled clyw sydd gan eich baban a’r difrifoldeb. I rai teuluoedd, gallai’r cymorth fod ar ffurf cyngor ac arweiniad ar sut i gyfathrebu â’ch baban a’i gefnogi wrth iddo dyfu.
Os allai colled clyw eich baban oedi neu atal datblygiad iaith a lleferydd, bydd Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar ar gael i roi cymorth i chi a’ch baban. Mae’r tîm yn cynnwys awdiolegydd, athro arbenigol a meddyg arbenigol. Gall therapydd iaith a lleferydd a gweithiwr cymdeithasol fod yn rhan o’r tîm hefyd.
Cwestiynau cyffredin cyffredinol
A allaf ddewis ble y caiff fy maban ei sgrinio?
Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn cael eu sgrinio tra eu bod yn dal yn yr Ysbyty. Os bydd angen i’ch baban fynd i glinig sgrinio, cynigir apwyntiad i chi yn y clinig sydd agosaf at eich cartref.
Rwyf newydd symud i’r ardal ac nid yw fy mabi wedi cael sgrin clyw, beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd, a fydd yn gallu hysbysu Sgrinio Clyw Babanod Cymru. Os nad oes gennych Ymwelydd Iechyd eto, cysylltwch â ni.
Pasiodd fy mabi sgrin y clyw ond nawr rwy’n poeni am ei glyw, beth ddylwn i ei wneud?
Siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu a fydd yn cyfeirio’ch babi at Awdioleg. Bydd apwyntiad yn cael ei gynnig ar gyfer prawf pellach yn yr Adran Awdioleg yn eich ardal.
A oes unrhyw gymorth ariannol ar gael i fynychu’r apwyntiad?
Cynllun costau teithio gofal iechyd
Oherwydd bod costau byw yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.
Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio rheolaidd yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, efallai y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am ragor o brofion yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol.
Mae’r ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) gan y GIG yn gosod canllawiau clir i bobl am pan gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. Ar gyfer y rheiny sy’n gymwys, mae’r cynllun yn cefnogi cost teithio i’r ysbyty neu eiddo gan y GIG ar gyfer triniaeth neu archwiliadau diagnostig a hariannwyd gan y GIG.
I wirio os ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG am fwy o wybodaeth, neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.
Cwestiynau cyffredin am wybodaeth ddefnyddiol
Beth os ydw i’n defnyddio cadair olwyn neu’n cael anhawster defnyddio grisiau?
Mae pob un o leoliadau ein Clinig yn hygyrch i gadeiriau olwyn a/neu â lifftiau.
A allaf ddod â phlant eraill gyda mi?
Yn ddelfrydol mae’r prawf sgrinio’n cael ei wneud pan fydd hi’n dawel, felly mae’n well dod â’ch babi gyda chi yn unig, ond os oes angen i chi ddod â phlant eraill gyda chi gofynnwn i chi geisio eu cadw mor dawel â phosib.
Beth os oes angen gwybodaeth arnaf mewn fformatau eraill neu mewn fformatau hawdd eu darllen?
Mae gwybodaeth am sgrinio clyw ar gael mewn fformatau gwahanol gan gynnwys:
Hawdd ei Ddeall, Sain a BSL. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth mewn Braille ar gais.
Beth os bydd angen cyfieithydd arnaf?
Mae gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael gan ddefnyddio ‘”Language Line” yn ystod y prawf sgrinio. Mae “Language Line” yn wasanaeth ffôn a ddefnyddir gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru, a gellir trefnu dehonglwyr BSL hefyd. Os hoffech fod cyfieithydd ar gael ar gyfer apwyntiad eich babi, cysylltwch â ni cyn i chi ddod fel y gallwn drefnu hyn
Beth os ydw i’n fyddar ac angen cysylltu â chi?
Yn anffodus, nid ydym yn defnyddio llwyfannau galwadau fideo fel Zoom, FaceTime na Live Chat ar hyn o bryd. Mae Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn gweithio i wella sut y gallwch gysylltu â ni.
Gellir trefnu dehonglydd BSL ar gyfer apwyntiad eich baban. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i ni gael trefnu hyn.
Neu efallai y byddwch am ofyn i’ch priod, partner neu aelod o’r teulu gysylltu â ni, gyda’ch caniatâd.
Beth os ydw i’n siaradwr Cymraeg?
Mae’r holl adnoddau gwybodaeth a thudalennau gwe a gynhyrchir gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Os byddai’n well gennych i apwyntiad Clinig eich babi gael ei gynnal yn Gymraeg, cysylltwch â ni cyn i chi ddod fel y gallwn drefnu i Sgriniwr sy’n siarad Cymraeg gynnal yr apwyntiad.