Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2020-21
Cyhoeddwyd ar: 1af Awst 2024
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.
Penawdau ystadegol
Sgrinio
- Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio wedi cael ei gynnig i 93.2% o fabanod cymwys (26,306) gyda 92.2% o fabanod cymwys wedi’u profi (26,093) a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio. Ni chafodd y safonau gwasanaeth eu cyrraedd.
- Ledled Cymru, cafodd 75.9% o fabanod iach eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth sy’n cyrraedd y safon 70%.
- Cwblhaodd 93.8% o fabanod iach sgrinio o fewn pedair wythnos, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
- Cwblhaodd 99.9% o fabanod risg uchel y rhaglen sgrinio, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
Asesu
- Cafodd 1.6% o’r babanod a sgriniwyd eu hatgyfeirio am asesiad awdioleg, yn unol â safonau gwasanaeth.
- Cwblhaodd 94.5% o fabanod a atgyfeiriwyd am asesiad awdioleg y broses asesu o fewn tri mis, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
- Roedd yr amser a gymerwyd i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrannwyd ar gyfer 95.3% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 99.5% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol), gyda’r ddau’n cyrraedd y safonau gwasanaeth.
- Roedd 97.2% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad, gan gyrraedd y safonau gwasanaeth.
- Aethpwyd i 78.5% o apwyntiadau asesu.
- Ni chafodd 2.8% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.
Canlyniadau
- Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust oedd 1.5 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn ychydig yn uwch na nifer yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r rhaglen, sef 1.2 fesul 1,000.
- Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 8.2 wythnos.
- Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 11.5 wythnos.
- Derbyniodd 96.0% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2020-21
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2020-21 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2021-22
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2024
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2019-20
Dyma’r unfed adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2022
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2018-19
Dyma’r pymthegfed adroddiad ystadegol blynyddol i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2020
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2017-18
Dyma’r pedwerydd adroddiad ystadegol blynyddol ar ddeg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2017 […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2020
-
Sicrhau ansawdd asesiad diagnostig a rheoli cynnar clinigol ac audiolegol yn dilyn sgrinio clyw babanod 2018
Yn 2018, bu Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW) yn cynnal adolygiad Sicrwydd Ansawdd (QA) o asesiad gwrando ac o gefnogaeth gynnar i blant â cholled clyw sylweddol a’u teuluoedd, ar […]
Cyhoeddwyd: