Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2019-20
Cyhoeddwyd ar: 1af Hydref 2022
Dyma’r unfed adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.
Penawdau ystadegol
Sgrinio
Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos:
- Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio yn cael ei gynnig i 98.7% o fabanod cymwys (29,767), gyda 97.4% (28,982) wedi’u profi a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio.
- Ledled Cymru, mae 75.2% o fabanod iach yn cael eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth – sy’n cyrraedd y safon 70%.
- 97.8% o fabanod iach yn cwblhau sgrinio o fewn pedair wythnos.
- 100.0% o’r holl fabanod risg uchel yn cwblhau’r rhaglen sgrinio.
Asesu
- Mae 1.2% o’r babanod sy’n cael eu sgrinio yn cael eu hatgyfeirio i gael asesiad.
- Mae 89.3% o fabanod sy’n cael eu hatgyfeirio am asesiad yn cwblhau’r broses asesu o fewn tri mis.
- Mae’r amser a gymerir i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrennir ar gyfer 96.2% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 98.8% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol).
- Mae 91.0% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad.
- Aethpwyd i 72.7% o apwyntiadau asesu.
- Ni chafodd 9.0% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.
Canlyniadau
- Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust oedd 1.1 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn ychydig yn is na nifer yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r rhaglen, sef 1.5 fesul 1,000.
- Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 11.2 wythnos.
- Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 16.1 wythnos.
- Derbyniodd 80.0% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2019-20
PDF, 739KB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2019-20 (739 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2021-22
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2024
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2020-21
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill […]
Cyhoeddwyd: 1af Awst 2024
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2018-19
Dyma’r pymthegfed adroddiad ystadegol blynyddol i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2020
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2017-18
Dyma’r pedwerydd adroddiad ystadegol blynyddol ar ddeg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2017 […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2020
-
Sicrhau ansawdd asesiad diagnostig a rheoli cynnar clinigol ac audiolegol yn dilyn sgrinio clyw babanod 2018
Yn 2018, bu Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW) yn cynnal adolygiad Sicrwydd Ansawdd (QA) o asesiad gwrando ac o gefnogaeth gynnar i blant â cholled clyw sylweddol a’u teuluoedd, ar […]
Cyhoeddwyd: