Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2018-19
Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2020
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Dyma’r pymthegfed adroddiad ystadegol blynyddol i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
Penawdau ystadegol
Sgrinio
- Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio yn cael ei gynnig i 99.9% o fabanod cymwys (31,129), gyda 99.5% wedi’u profi (30,959), a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio.
- Ledled Cymru, mae 74.1% o fabanod iach yn cael eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth, sy’n cyrraedd y safon o 70%.
- 98.6% o fabanod iach yn cwblhau sgrinio o fewn pedair wythnos.
- 100.0% o’r holl fabanod risg uchel yn cwblhau’r rhaglen sgrinio.
Asesu
- Mae 1.2% o’r babanod sy’n cael eu sgrinio yn cael eu hatgyfeirio am asesiad.
- Mae 93.6% o’r babanod sy’n cael eu hatgyfeirio am asesiad yn cwblhau’r broses asesu o fewn tri mis.
- Mae’r amser a gymerir i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrennir ar gyfer 98.0% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 98.8% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol)
- Mae 96.5% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad.
- Aethpwyd i 75.8% o apwyntiadau asesu.
- Ni chafodd 3.5% o fabanod a atgyfeiriwyd i am asesiad eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.
Canlyniadau
- Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust yn 1.5 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn yn gyson â nifer yr achosion ers dechrau’r rhaglen.
- Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 7.4 wythnos.
- Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 11.4 wythnos.
- Derbyniodd 90.9% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2018-19
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2018-19 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2021-22
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2024
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2020-21
Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill […]
Cyhoeddwyd: 1af Awst 2024
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2019-20
Dyma’r unfed adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2022
-
Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2017-18
Dyma’r pedwerydd adroddiad ystadegol blynyddol ar ddeg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2017 […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2020
-
Sicrhau ansawdd asesiad diagnostig a rheoli cynnar clinigol ac audiolegol yn dilyn sgrinio clyw babanod 2018
Yn 2018, bu Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW) yn cynnal adolygiad Sicrwydd Ansawdd (QA) o asesiad gwrando ac o gefnogaeth gynnar i blant â cholled clyw sylweddol a’u teuluoedd, ar […]
Cyhoeddwyd: