Sgrinio clyw babanod
Beth yw sgrinio clyw babanod?
Caiff un neu ddau o fabanod o bob 1000 eu geni â nam ar y clyw a all effeithio ar ddatblygiad eu lleferydd ac iaith. Mae sgrinio clyw babanod yn helpu i ddod o hyd i’r babanod hynny a chynnig help a chymorth o’r dechrau.
Cynigir prawf sgrinio i fabanod unwaith y byddant wedi’u geni.
Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes neb arall yn byw gyda cholled clyw. Mae canfod colled clyw yn gynnar yn bwysig i ddatblygiad eich baban. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael mwy o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch baban.
Mae sgrinio clyw yn ein helpu i adnabod babanod a allai fod â cholled clyw. Mae profion sgrinio yn dangos i ni pa fabanod sydd angen mwy o brofion i benderfynu a oes ganddynt golled clyw.
Nid yw sgrinio yn canfod pob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.
Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am iechyd eich baban.
Mae’r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio clyw a fydd yn cael ei gynnig i’ch baban ar ôl iddo gael ei eni.
Beth i’w ddisgwyl yn y sgrinio
Dysgwch sut caiff clyw eich babi ei sgrinio, pryd a ble caiff y prawf ei wneud, beth i’w ddisgwyl yn ystod y apwyntiad, a pha fathau o brofion a ddefnyddir.
Beth i’w ddisgwyl yn y clinig awdioleg
Dysgwch beth mae’n ei olygu os caiff eich babi ei gyfeirio am asesiad clyw, beth sy’n digwydd yn y clinig awdioleg, sut caiff y profion eu cynnal, a beth y gallai’r canlyniadau ei olygu.
Cysylltu â ni
Os hoffech gysylltu, gallwch gysylltu â ni yma.
Adroddiadau
Adroddiadau rhaglen sgrinio clyw babanod
Data
Data am gwmpas sgrinio clyw babanod a’r nifer sy’n cael eu sgrinio
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn