Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru
Mae Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru yn ceisio hyrwyddo’r defnydd arferol o wyddor ymddygiad ledled y system iechyd y cyhoedd, a hynny er mwyn gwella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Mae gan Gymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru gannoedd o gydweithwyr o sefydliadau addysg uwch, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, CLlLC, a’r Trydydd Sector, ac mae unedau gwyddor ymddygiad ac ymchwilwyr eraill yn y DU hefyd yn cymryd rhan.
Mae’r gymuned yn bodoli er mwyn gwella sgyrsiau, cysylltiadau, cydweithrediad a gallu pawb i ddefnyddio gwyddor ymddygiad wrth eu gwaith er gwell iechyd yng Nghymru (a thu hwnt).
Mae gan y Gymuned ddigwyddiadau chwarterol sy’n cynnig cymysgedd o sgyrsiau arbenigol, hyfforddiant, gweithdai a lle i rwydweithio, ar-lein ac wyneb-yn-wyneb. Mae grŵp LinkedIn caeedig y gallwch ymuno ag e. Mae hyn oll wedi’i gynllunio gyda’n Cymuned, ar gyfer ein Cymuned, a hynny er mwyn:
- Ei gwneud yn haws i rannu gwybodaeth, arbenigedd, profiadau a dysg
- Galluogi i ddata, deallusrwydd a gwybodaeth gael eu rhannu
- Nodi heriau/amcanion cyffredin lle gallai gwyddor ymddygiad helpu i gael canlyniadau
- Galluogi cysylltiadau a chydweithrediadau ar brosiectau gwyddor ymddygiad
- Rhoi mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu i wella sgiliau a gwybodaeth gwyddor ymddygiad
- Hwyluso mynediad at gyngor, arweiniad ac arbenigedd ym maes gwyddor ymddygiad
- Adnabod dulliau gweithio nodedig a’u rhannu
- Cefnogi’r gwaith o gyd-gynhyrchu offer ac adnoddau gwyddor ymddygiad
Mae’r Gymuned yn rhan o’r Rhwydwaith Gwyddor Ymddygiad a Iechyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig) sydd wedi’i sefydlu ledled y DU.
Fel aelod, gallwch ein helpu i benderfynu sut a chyda phwy rydym yn gweithio i alluogi’r defnydd arferol o wyddor ymddygiad er budd iechyd yng Nghymru.
Cewch hefyd wybodaeth ddefnyddiol am ddatblygiadau mewn gwyddor ymddygiad, meddyliau a myfyrdodau gan arbenigwyr blaenllaw y maes, ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn Newyddion Gwyddor Ymddygiad, ein e-fwletin chwarterol.
Mae rhai o’n digwyddiadau yn llenwi’n sydyn, felly mae ymuno â’r Gymuned yn ffordd wych o wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli cyfleoedd.
Sut alla i ymuno?
Cewch ymuno â’r gymuned yn rhad ac am ddim. Mae aelodaeth ar gael i weithwyr proffesiynol sy’n awyddus i ddefnyddio gwyddor ymddygiad wrth eu gwaith er budd iechyd pobl Cymru, ac i academyddion sy’n gweithio ar wyddor ymddygiad ledled Cymru a thu hwnt.
I ymuno â’r Gymuned, ewch i dudalen gofrestru cymuned y Rhwydwaith Gwyddor Ymddygiad a Iechyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig).
Digwyddiadau
Mae’r Uned yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, ar-lein a wyneb-yn-wyneb, i’ch cefnogi i ddysgu am wyddor ymddygiad ac i ddatblygu. Mae llawer o’n digwyddiadau yn amrywio o ran cwmpas a chynnwys. Mae ein digwyddiadau yn aml yn cynnwys:
- Siaradwyr gwadd blaenllaw o faes gwyddor ymddygiad
- Astudiaethau achos sy’n arddangos enghreifftiau ymarferol o wyddor ymddygiad yn cael ei ddefnyddio
- Gweithgareddau ymarferol a gweithdai i helpu i ddatblygu gallu gwyddor ymddygiad
- Fforymau gofod agored i siarad â gweithwyr proffesiynol eraill am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gwyddor ymddygiad
Mae manylion ein digwyddiadau i’w cael yma (Saesneg yn unig).
Mae gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol o’n digwyddiadau blaenorol i’w cael isod.
