Llyfr gwaith UGY: Menter gwaith cyfathrebu sy’n ystyriol o ymddygiad (BICI)
Nod y Fenter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI) yw rhoi damcaniaethau, egwyddorion a fframweithiau gwyddor ymddygiadol ar waith er mwyn gwneud y gorau o ymdrechion cyfathrebu uniongyrchol. Drwy gydol y fenter hon, byddwn yn defnyddio modelau, fframweithiau a damcaniaethau gwahanol sydd wedi’u gwreiddio mewn gwyddor ymddygiad. Mae strwythur BICI yn seiliedig ar ‘Datblygu Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad’, sef offeryn a gyhoeddwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Mawrth 2023; gallwch ei lawrlwytho o’r blwch gyferbyn. Rydym yn dilyn 5 cam hanfodol, wedi’u crynhoi fel ‘SCALE’ yn Saesneg (pennu – specify; ystyried – consider; cyd-osod – assemble; gosod – layout a gwerthuso – evaluate). Byddwn hefyd yn darparu dolenni i adnoddau defnyddiol y gallech fod am eu darllen neu eu defnyddio ochr yn ochr â phob cam hefyd.