Offeryn rhyngweithiol UGY: Mapio mewnwelediadau a dewis swyddogaethau ymyrryd
Mae cymhwyso gwyddor ymddygiad yn helpu i wneud y gorau o effaith gweithgareddau, gwasanaethau, polisïau a chyfathrebu. Mae datblygu ymyraethau o’r fath sy’n cyfrif am ymddygiad, neu sy’n ceisio dylanwadu arno, yn cynnwys sawl cam, fel y dangosir yn Ffigur 1; disgrifir y camau hyn yn llawn yn ‘Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer’.
Efallai eich bod yn codi’r canllaw hwn ar ôl darllen neu ddefnyddio offeryn 1 a/neu 2, ac os felly, dylai fod gennych:(a) manyleb ymddygiad gydag ymddygiad targed a phoblogaeth wedi’u diffinio’n glir (b) mewnwelediadau ymddygiad sy’n benodol i’ch ymddygiad a’ch poblogaeth. Os nad ydych wedi darllen neu ddefnyddio offer 1 a 2 ond bod gennych rywfaint o fewnwelediad ymddygiad yr hoffech ei ddefnyddio, bydd yr offeryn hwn yn gweithio i chi hefyd.
Yn yr offeryn hwn, byddwn yn dechrau trwy adolygu’r mewnwelediadau sydd gennych, cyn archwilio pa fathau o swyddogaethau ymyrryd a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer newid eich ymddygiad targed gan ddefnyddio’r model COM-B (West et al., 2020) a’r Olwyn Newid Ymddygiad (Mitchie et al., 2014).