Offeryn rhyngweithiol UGY: Sut i gasglu mewnwelediadau ymddygiad
Mae’r offeryn hwn yn canolbwyntio ar gam dau, ‘diagnosio’ sy’n cynnwys cynnal diagnosis o ymddygiad gan ddefnyddio’r model COM-B. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar ymddygiad targed ar gyfer eich poblogaeth darged (a gwmpesir yn offeryn 1) mae’n bwysig adeiladu dealltwriaeth systematig o ddylanwadau’r ymddygiad hwnnw, yn y boblogaeth honno, ar y pryd – a elwir fel arall yn ‘fewnwelediadau o ymddygiad’. Bydd defnyddio mewnwelediadau ymddygiad yn helpu i sicrhau eich bod yn ‘cael yr hyn yr ydych yn anelu ato’ o’ch ymyriadau, yn amlach.