Offeryn rhyngweithiol UGY: Pennu offeryn ymddygiad targed a phoblogaeth darged
Mae’r offeryn byr hwn yn canolbwyntio ar egluro’r cam cyntaf ‘Penderfynu ar ymddygiad targed a phoblogaeth darged’. Mae nodi, blaenoriaethu a disgrifio’r ymddygiad a’r boblogaeth a fydd yn cael eu dylanwadu yn bwysig. Os nad ydym yn meithrin dealltwriaeth drylwyr a chywir o’r broblem, rydym yn llai tebygol o ddatblygu ymyriadau sydd â’r manylder a’r effaith i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
Mae mabwysiadu dull systematig, fel y disgrifir yn yr offeryn hwn, yn ein cynorthwyo i herio ein tybiaethau am y broblem dan sylw ac yn ein hatal rhag neidio i gynnig atebion yn rhy gynnar cyn deall y mater yn llawn. Drwy weithio drwy’r camau a amlinellir yn yr offeryn hwn, gallwn lunio manyleb ymddygiad cadarn i lywio’r gwaith o gasglu mewnwelediadau ymddygiad, sef y cam nesaf yn y broses o ddatblygu ymyrraeth.