Offeryn rhyngweithiol UGY: Datblygu cyfathrebiadau ar sail ymddygiad
Mae ymddygiad yn weithred, mae’n rhywbeth yr ydym yn ei wneud sy’n fesuradwy. Os ydych yn ymdrechu i gael unigolion neu grwpiau yn y boblogaeth i ddechrau neu roi’r gorau i ymddygiad, neu newid ymddygiad, gall y canllaw hwn helpu. Gall gwyddor ymddygiad wneud cyfraniad pwerus i’n hymdrechion i wella a diogelu iechyd a llesiant.
Mae cyfathrebiadau sy’n cael effaith yn aml yn elfen hanfodol o’r broses o ddatblygu polisïau ac ymyriadau, ac maent hefyd yn cyfrannu at gynnal a gwella gwasanaethau o ansawdd. Mae cynllunio a darparu cyfathrebiadau’r sector cyhoeddus trwy lens ymddygiadol dim ond yn cynyddu’r siawns o gyflawni amcanion polisi a gwneud gwahaniaeth.
Mae’r canllaw ‘casglu-a-mynd’ cryno hwn ar gyfer unrhyw un y mae angen iddo ddylanwadu ar ymddygiad trwy gyfathrebu. Yn y canllaw drwyddo draw, rydym yn rhannu â chi yr hyn yr ydym yn chwilio amdano pan fyddwn yn adolygu cyfathrebiadau o safbwynt gwyddor ymddygiadol. Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio dull ‘SCALE’ i helpu i gryfhau’r cyfathrebu trwy gymhwyso gwyddor ymddygiad. Mae’r canllaw yn cyd-fynd â safonau proffesiynol cyfathrebiadau presennol megis fframwaith OASIS. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn yr adran Cyfeiriadau ac Adnoddau Ychwanegol.