Neidio i'r cynnwys

Canllaw UGY: Ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Defnyddio gwyddor ymddygiad

Mae’r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yr amgylchedd yn creu baich clefydau parhaus a chynyddol, ac mae i hynny oblygiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng drwy ddulliau lliniaru ac addasu, mae angen newid ein hymddygiad. Canllaw yw hwn i weithwyr proffesiynol/ymarferwyr sy’n gweithio ar bolisïau, gwasanaethau neu ddeunyddiau cyfathrebu sy’n ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan roi cyngor gwerth chweil am sut i ddefnyddio gwybodaeth am ymddygiad a sut i wneud pobl yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad.