Neidio i'r cynnwys

Hepatitis C

Archebu pecyn Profi a Phostio am feirysau a gludir yn y gwaed

Mae Hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n achosi llid yr afu a gall arwain at niwed hirdymor i’r afu.

Mae’r feirws yn cael ei ledaenu pan fydd gwaed person heintus yn mynd i mewn i lif gwaed person arall. Y brif ffordd mae hepatitis C yn cael ei ledaenu yn y DU yw drwy ddefnyddio cyffuriau, gan rannu nodwyddau. Gall tyllu’r corff a chael tatŵ gan ddefnyddio nodwyddau heb eu diheintio ledaenu’r feirws hefyd. Yn anaml, mae’n cael ei ledaenu drwy gysylltiad rhywiol neu o’r fam i’r babi cyn neu yn ystod genedigaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am hepatitis C ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Pwy sy’n dan risg

Mae rhai pobl yn wynebu risg uwch o gael hepatitis C, gan gynnwys:

  • Pobl sy’n chwistrellu cyffuriau
  • Y rhai sy’n dod i gysylltiad â gwaed, fel gweithwyr gofal iechyd a swyddogion carchar
  • Babanod sy’n cael eu geni i famau heintus (mae tua 5 y cant o famau heintus yn trosglwyddo’r feirws i’w babanod)
  • Pobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn 1991 yn y DU neu mewn gwlad nad yw’n sgrinio gwaed rhoddwr am y feirws.

Mae’n bwysig i chi gael prawf os ydych chi’n credu y gallech fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws hwn, oherwydd profi yw’r unig ffordd o wybod a yw haint yn bresennol ai peidio.

Efallai na fydd gan unigolion sydd wedi’u heintio â hepatitis C unrhyw symptomau. Bydd tua un o bob pump o bobl yn gwaredu’r feirws hepatitis C o’u corff yn naturiol o fewn chwe mis cyntaf yr haint. I’r gweddill, daw hepatitis C yn haint cronig.

I’r unigolion hyn, mae canlyniad yr haint yn amrywio’n fawr iawn. Ni fydd llawer o bobl byth yn datblygu unrhyw arwyddion na symptomau clefyd yr afu ac efallai na fyddant hyd yn oed yn gwybod eu bod wedi’u heintio.

Fodd bynnag, bydd tua 20 y cant yn datblygu sirosis (creithio) yr afu o fewn 10-30 mlynedd, sy’n gallu arwain at fethiant yr afu. Mae hepatitis C cronig hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o ganser yr afu.

Triniaeth

Nid oes brechlyn ar gyfer hepatitis C. Mae meddyginiaethau newydd wedi gweddnewid trin hepatitis C fel bod modd ei wella yn awr mewn tua 9 o bob 10 o bobl os yw’n cael ei drin yn gynnar. Mae’r triniaethau tabled newydd yn llawer mwy effeithiol ac mae llawer llai o sgil-effeithiau. Mae’r driniaeth yn cymryd wyth i 12 wythnos.

Hyd yn oed os nad yw’r driniaeth yn gwaredu’r firws, gall arafu datblygiad llid a niwed i’r afu o hyd. 

Ymgyrch parhaus i ail-ymgysylltu â chleifion Hepatitis C

Ym mis Mawrth 2019, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgyrch i olrhain miloedd o bobl yng Nghymru sydd yn byw gyda hepatitis C i cynnig triniaethau newydd iddynt sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn gwella’r salwch.

Mae’r ymgyrch yn rhedeg rhagddo ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a byrddau iechyd lleol i gysylltu â phobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis blaenorol o hepatitis C sydd ddim wedi cael eu trinio, i’w gwahodd i gael eu hailbrofi a chael triniaethau newydd os ydynt yn dal i fod wedi’u heintio.

Mae’r triniaethau, a ddaeth ar gael yn ehangach yn 2015, yn effeithiol iawn a gallant wella’r feirws mewn mwy na 90 y cant o achosion. 

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dod i gysylltiad â hepatitis  C neu mewn grŵp risg uchel, gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu yn uniongyrchol i drefnu prawf.

Atal

Ni ddylai pobl sy’n defnyddio cyffuriau drwy eu chwistrellu rannu offer chwistrellu a dylai unigolion sy’n tyllu eu corff neu sy’n cael tatŵ sicrhau bod nodwyddau di-haint tafladwy yn cael eu defnyddio.

Dylai pobl sy’n byw gyda hepatitis C ddechrau triniaeth i leihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Ers 1991, mae’r holl waed sy’n cael ei roi yn y DU yn cael ei sgrinio am hepatitis C.

Mae Cymru wedi ymrwymo i strategaeth Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis C fel bygythiad iechyd cyhoeddus sylweddol erbyn 2030. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi pennu targed i leihau achosion newydd 90 y cant a marwolaethau sy’n gysylltiedig â hepatitis 65 y cant erbyn 2030.

Yn dilyn cyflwyno triniaethau newydd, dechreuodd y Rhaglen Driniaeth Hepatitis C i Gymru Gyfan yn 2014. Mae mwy na 1,000 o gleifion â hepatitis C bellach wedi cael eu trin drwy’r rhaglen. Nid yw Cymru’n cyfyngu mynediad i driniaeth. 

Mae tua 5,000 o bobl wedi cael diagnosis o hepatitis C ond nid ydynt wedi cael triniaeth na gwaredu’r feirws. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd yn cydweithio i gysylltu â hwy i gynnig ailbrofi a’r triniaethau newydd.

Atal Hepatitis C mewn carchardai

Mae gan garchardai rôl sylweddol i’w chwarae wrth gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu hepatitis C erbyn 2030.

Mae carchardai Cymru wedi bod yn profi’n rheolaidd am feirysau a gludir yn y gwaed (BBV), gan gynnwys Hepatitis C, ers 2010.

Ers 2016, mae Cymru wedi symud i system brofi optio allan lle mae’r holl ddynion yn y carchar yn cael cynnig profion ar gyfer Feirysau a Gludir yn y Gwaed o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf o garchar. Mae gwasanaethau arbenigol o fyrddau iechyd lleol yn cynnal clinigau ym mhob carchar, gan ddarparu triniaeth ar gyfer hepatitis C, hepatitis B a HIV. 

Yn 2017, cafodd mwy na thraean o dderbyniadau i’r carchar eu profi, cynnydd sylweddol ers y symud i brofi optio allan. Cafwyd bod tua 10 y cant o ddynion a brofwyd mewn carchardai yn bositif am wrthgyrff hepatitis C.

Cymorth pellach

Mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn elusen y DU genedlaethol a arweinir gan gleifion i bobl y mae hepatitis C yn effeithio arnynt.

Mae’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau i bobl y mae hepatitis C yn effeithio arnynt ac ar y rhai sy’n gweithio gyda hwy. Yn ogystal ag ymgyrchu ar gyfer ymwybyddiaeth well o’r feirws, gwell gwasanaethau a mynediad i driniaethau newydd, mae hefyd yn darparu llinell gymorth genedlaethol (020 7089 6221 neu drwy e-bost i [email protected] sy’n cael ei staffio gan bobl sydd wedi cael hepatitis C eu hunain.

Mae hefyd yn darparu e-gylchlythyr misol i roi gwybod i bobl am y newyddion, yr ymchwil a’r digwyddiadau diweddaraf.

Sefydliadau eraill

Dysgwch mwy

Os hoffech ddysgu mwy am y driniaet, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data