Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin am sgrinio’r coluddyn

Ynglŷn â sgrinio

Pwy sy’n gymwys ar gyfer sgrinio’r coluddyn yng Nghymru?

O’r 9fed o Hydref ymlaen, mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cynnig sgrinio’r coluddyn i bobl rhwng 50 i 74 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Os ydych yn byw yng Nghymru a heb gofrestru gyda Meddyg Teulu ond yr hoffech gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar 0800 294 3370.

Pryd fydd rhywun 50 oed yn derbyn eu prawf FIT?
Mis penblwydd Mis o bostio’r prawf
Gorffenaf Ionawr a Chwefror 2025
Awst Chwefror a Mawrth  2025
Medi Mawrth ac Ebrill 2025
Hydref Mawrth ac Ebrill 2025
Tachwedd Ebrill a Mai 2025
Rhagfyr Mehefin a Gorffenaf 2025
Faint o bobl fydd yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio o ganlyniad i ehangu’r oedran i 50?

Bydd hyn yn arwain at wahodd tua 76,000 o bobl ychwanegol 50 oed i gael eu sgrinio rhwng mis Hydref 2024 a mis Mehefin 2025, a bydd cyfanswm o 510,000 yn cael eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn.

Rwy’n dros 74 oed, a allaf gael sgrinio?

Na allwch, nid yw tystiolaeth gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn cefnogi gwahodd pobl dros 74 oed i gymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn ar hyn o bryd.

Beth os nad wyf am gymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn?

Eich ddewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio coluddion. Mae gan Sgrinio Coluddion Cymru ddyletswydd i wahodd pob unigolyn cymwys i gael ei sgrinio.

Os na fyddwch yn cwblhau eich pecyn prawf sgrinio o fewn 7 wythnos o’i dderbyn, byddwch yn derbyn llythyr atgoffa. Os na fyddwch yn dychwelyd pecyn prawf wedi’i gwblhau ar ôl y llythyr atgoffa, byddwn yn eich gwahodd eto ymhen dwy flynedd, os ydych o fewn yr ystod oedran cymwys ac yn byw yng Nghymru.

Os nad ydych am dderbyn gwahoddiadau ar gyfer sgrinio’r coluddyn, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni. Byddwn yn anfon ffurflen atoch i’w llofnodi i gadarnhau nad ydych am gael gwahoddiadau pellach gennym ni.

Gall unigolion sy’n gofyn am atal y gwahoddiadau, ond sydd wedyn yn penderfynu’n ddiweddarach yr hoffent gael eu sgrinio, ddod yn ôl i mewn i’r rhaglen unrhyw bryd tan 74 oed.

Nid wyf wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu. A fyddaf yn dal i gael fy ngwahodd?

Na fyddwch, mae angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu i dderbyn gwahoddiad awtomatig gan raglen Sgrinio Coluddion Cymru.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ond yr ydych yn byw yng Nghymru ac yr hoffech gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar 0800 294 3370.

Rwy’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr – beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Mae rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn seiliedig ar breswyliad, felly os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu, dylech dderbyn pecyn prawf gan Sgrinio Coluddion Cymru, os ydych o fewn yr ystod oedran cymwys. Ni ddylai cael meddyg teulu ar ochr Lloegr i’r ffin newid hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich hawl i dderbyn gwasanaethau’r rhaglen sgrinio’r coluddyn yng Nghymru, dylech siarad â’ch meddyg teulu yn y lle cyntaf.

Ynglŷn â’r pecyn profi

Rwyf wedi colli neu ddifrodi fy mhecyn profi, a alla i gael un arall?

Gallwch. Gallwch ofyn am becyn profi newydd:

Sut mae cwblhau’r pecyn profi?
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau (i’w ddod yn fuan) cam wrth gam sydd wedi’u cynnwys yn eich pecyn profi.
  • Gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gwblhau’r prawf.
  • Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau’r prawf.
A allaf ailddefnyddio’r ffon brofi os ydw i wedi gwneud camgymeriad?

Na allwch. Bydd angen i chi ofyn am becyn profi newydd:

Sut mae’r labordy’n profi fy sampl?

Bydd peiriant labordy yn profi faint o waed sydd yn eich sampl pŵ.

Bydd faint o waed a ganfyddir yn penderfynu a fydd angen i chi gael profion eraill.

Rwy’n ei chael hi’n rhy anodd gwneud y prawf hwn. Pa gymorth sydd ar gael?

Gallwch gysylltu â ni i siarad ag aelod o Dîm Sgrinio Coluddion Cymru i drafod sut y gallwn helpu.

A ddylwn i roi’r gorau i gymryd fy meddyginiaeth cyn gwneud y prawf sgrinio’r coluddyn?

Na ddylech. Dylech barhau i gymryd eich meddyginiaeth a gwneud y prawf. Os ydych yn cymryd warffarin, asbirin, cyffuriau gwrthlidiol, gwrthfiotigau neu feddyginiaethau teneuo gwaed, mae’n bosibl y bydd yn fwy tebygol y byddwch yn cael canlyniad lle bydd angen profion pellach.

Rydw i wedi colli fy amlen wedi’i rhagdalu. A alla i ddefnyddio amlen arferol?

Na allwch. Mae’r amlen ragdaledig wedi’i dylunio i fodloni rheoliadau post a chadw’r pecyn prawf yn ddiogel tra bydd yn cael ei hanfon atom. Os oes angen amlen newydd arnoch, cysylltwch â ni.

Anghofiais i ysgrifennu’r dyddiad ar y prawf. A fydda i yn dal i gael canlyniad?

Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu prosesu’r pecyn profi heb y dyddiad ac os na allwn ni wneud hynny, byddwn yn anfon pecyn profi arall atoch. Os ydych chi’n cwblhau pecyn profi arall, gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r dyddiad y gwnaethoch chi gymryd y sampl ar y prawf.

A alla i helpu rhywun rwy’n gofalu amdano i wneud y prawf?

Gallwch. Os oes gennych ganiatâd gan yr unigolyn i’w helpu a’i fod yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hunan.

Ni ddylech gwblhau profion ar ran rhywun nad yw’n gallu gwneud y penderfyniad hwn oni bai bod gennych yr awdurdod cyfreithiol i wneud hynny; er enghraifft, mae gennych Atwrneiaeth ar gyfer Iechyd a Lles ar ran yr unigolyn.

Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i’n tudalen we neu cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn i siarad ag un o’n nyrsys.

Beth yw’r hylif yn y pecyn prawf?

Mae’r hylif a welir yn y pecyn prawf yn cynnwys sodiwm asaideg (0.1% neu lai) sy’n cadw ac yn sefydlogi unrhyw waed (haemoglobin) yn eich sampl.

Ni ddylid tynnu’r hylif o’r pecyn prawf.

Os daw i gysylltiad â’r llygad, y geg neu’r croen, sicrhewch eich bod yn rinsio gyda digon o ddŵr rhedegog. Os oes angen, ceisiwch driniaeth feddygol a chysylltwch â gweithiwr proffesiynol meddygol.

Ynglŷn â’r canlyniadau

A fydd fy meddyg teulu’n cael gwybod os na fyddaf yn cymryd rhan?

Bydd. Bydd eich cofnodion meddyg teulu yn cael eu diweddaru’n awtomatig os nad ydych wedi ymateb i’r gwahoddiad. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg teulu yn trafod eich penderfyniad i beidio â chymryd rhan mewn prawf sgrinio’r coluddyn gyda chi.

Gwelais waed yn fy mhŵ ond, yn ôl y canlyniad, does dim angen profion pellach arnaf?

Weithiau, gall gwaed sy’n ymddangos ar y tu allan i’r pŵ gael ei achosi gan waedu allanol megis hemoroidau (y peils). Os gallwch weld gwaed, mae angen i chi ddweud wrth eich meddyg teulu fel y gellir gwirio’ch symptomau. Dim ond bob 2 flynedd y gellir gwneud y prawf sgrinio.

A allwch chi roi gwybod i mi am ganlyniad lefel gwaed fy mhecyn profi?

Gallwn. Gallwch ofyn am ganlyniadau rhifiadol eich profion drwy gysylltu â’n llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 294 3370, yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu drwy’r wefan.  Byddwn yn anfon eich canlyniad drwy’r post.

Cymryd rhan

A ellir cwblhaur’ pecyn prawf os yw person yn cael mislif?

Na, arhoswch hyd nes y bydd y gwaedu wedi dod i ben cyn cwblhau’r pecyn prawf.

Cefais golonosgopi yn ddiweddar. A ddylwn i gymryd rhan?

Dylech. Mae’n ddiogel cymryd rhan.

Mae gennyf hemoroidau (y peils). A ddylwn i gymryd rhan?

Dylech. Os oes gennych hemoroidau (y peils), argymhellir eich bod yn cymryd rhan mewn prawf sgrinio’r coluddyn. Rydym yn eich cynghori i gymryd eich sampl o ganol eich pŵ, oherwydd efallai y bydd yn fwy tebygol y deuir o hyd i waed.

Mae gen i haint yn fy ngholuddyn. A ddylwn i gymryd rhan?

Os yw eich meddyg wedi dweud wrthoch chi fod gennych haint yn eich coluddyn, efallai y byddwch eisiau aros ychydig ddyddiau nes bod hyn wedi gwella.

Rwyf o dan ofal yr ysbyty ac rwy’n cael colonosgopïau’n rheolaidd. A ddylwn i gymryd rhan mewn profion sgrinio’r coluddyn?

Dylech drafod cymryd rhan gyda’r tîm meddygol sy’n eich trin, eich meddyg teulu neu drwy ffonio ein llinell gymorth Rhadffôn i siarad ag un o’n nyrsys.

Rwyf wedi cael stoma a bellach mae gen i colostomi. A alla i barhau i gymryd rhan mewn sgrinio?

Gallwch. Os oes gennych ran o’ch coluddyn mawr o hyd, gallwch gymryd y sampl o’ch bag stoma.

Sut mae cymryd sampl o fy mag colostomi/stoma?

Gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau a ddarperir gyda’r pecyn prawf. Unwaith y byddwch wedi cael symudiad coluddyn, cymerwch eich bag colostomi i ffwrdd y byddech fel arfer yn ei wneud wrth ei newid. Dylid cymryd y sampl trwy’r twll yn y bag ac nid yn uniongyrchol o’r stoma. Peidiwch â thorri’r bag ar agor gan na fyddai hyn yn angenrheidiol.

Yr arfer gorau fyddai cymryd y sampl cyn gynted ag y byddwch wedi cael symudiad coluddyn, ond os nad yw hyn yn bosibl, gallwch gymryd y sampl cyn gynted ag y byddwch wedi newid y bag.

Rwyf wedi cael ileostomi. A alla i barhau i gymryd rhan mewn sgrinio?

Na allwch. Os oes gennych ileostomi parhaol ac nad oes gennych coluddyn mawr mwyach, nid oes angen i chi gwblhau’r prawf. Gallwch gysylltu â ni a byddwn yn ysgrifennu at eich meddyg i gadarnhau hyn fel na fyddwch yn derbyn rhagor o wahoddiadau.

Rwy’n cael fy nhrin am fath arall o ganser. A alla i barhau i gymryd rhan mewn sgrinio?

Byddem yn argymell eich bod yn siarad â’ch oncolegydd cyn cymryd rhan. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn i siarad ag un o’n nyrsys.

Mae gen i hanes teuluol o ganser y coluddyn. Beth ddylwn i ei wneud?

Os oes gennych hanes teuluol, siaradwch â’ch meddyg. Mae’n bosibl y bydd yn eich atgyfeirio at Wasanaeth Geneteg Cymru Gyfan.

Mae gen i hanes teuluol o ganser y coluddyn. A ddylwn i gymryd rhan mewn sgrinio?

Dylech. Os nad ydych yn cael profion colonosgopig rheolaidd a bod gennych hanes teuluol, dylech barhau i gwblhau’r pecyn profi.

Rwy’n teimlo’n dda ac nid oes gennyf unrhyw symptomau [canser y] coluddyn, a oes angen i mi wneud y prawf?

Oes. Mae sgrinio’n canfod canser y coluddyn yn gynnar cyn i’r symptomau ddatblygu, pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Byddem yn eich annog i wneud y prawf, ond rydym yn parchu eich penderfyniad os byddwch yn penderfynu peidio â chymryd rhan mewn sgrinio.

Os byddaf yn penderfynu peidio â chymryd rhan y tro hwn, a fydd hyn yn fy atal rhag cael fy ngwahodd yn y dyfodol?

Na fydd. Os ydych yn dal i fod o fewn yr ystod oedran cymwys, 50-74, fe’ch gwahoddir i gael eich sgrinio bob dwy flynedd. Ni fydd eich penderfyniad i beidio â chymryd rhan y tro hwn yn effeithio ar unrhyw ofal y byddwch yn cael gan eich meddyg neu’ch ysbyty.

Nid wyf am i chi gysylltu â mi ar gyfer sgrinio’r coluddyn. A allwch dynnu fy manylion oddi ar y rhestr o wahoddiadau?

Gallant. Gallwn dynnu eich manylion a bydd hynny’n atal gwahoddiadau pellach rhag cael eu hanfon atoch.  Bydd angen i chi gysylltu â ni er mwyn i ni allu anfon ffurflen atoch i’w llofnodi a’i dychwelyd. Os byddwch yn newid eich meddwl ac yn dal o fewn yr ystod oedran cymwys, sef 50–74 mlwydd oed, gallwch gysylltu â ni neu siarad â rhywun yn eich meddygfa.

A alla i drefnu i rywun rwy’n gofalu amdano gael ei dynnu oddi ar y rhestr o’r rhai sy’n derbyn gwahoddiad?

Dim ond os oes gennych Atwrneiaeth ar gyfer Iechyd a Lles yr unigolyn y gallwch wneud penderfyniad ar ei ran.  Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 294 3370 os hoffech drafod hyn ymhellach.

Cwestiynau cyffredinol

O ble y cawsoch fy manylion?

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cael manylion yr holl bobl gymwys o System Demograffig Cymru. Cronfa ddata genedlaethol i feddygon teulu’r GIG yw hon sy’n cynnwys manylion o enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a meddygon teulu holl breswylwyr Cymru.  Mae’r system hon wedi’i rheoli’n llym iawn ac mae’n cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Mae’r manylion cyfeiriad sydd gennych yn anghywir. Sut mae eu diweddaru?

Os yw eich manylion yn anghywir, bydd angen i chi gysylltu â’ch practis meddyg teulu i’w diweddaru.

Pa wybodaeth feddygol y mae gennych fynediad iddi?

Nid oes gan Sgrinio Coluddion Cymru fynediad at gofnodion meddygol.   Mae gan Sgrinio Coluddion Cymru fynediad i gronfa ddata genedlaethol meddygon teulu’r GIG, sydd â manylion am enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a meddygon teulu holl breswylwyr cymwys Cymru.  Mae’r system hon wedi’i rheoli’n llym iawn ac mae’n cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Pa wybodaeth bersonol sydd gennych amdanaf?

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cofnodi eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad cyswllt a chanlyniadau eich profion sgrinio’r coluddyn. Dim ond gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol fydd yn gallu gweld eich gwybodaeth sgrinio’r coluddyn personol.  Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd weld ein polisi preifatrwydd.

At ba ddibenion ydych chi’n defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn sgrinio ac i wella gwasanaethau sgrinio. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd weld ein polisi  preifatrwydd.

Beth yw risgiau colonosgopi?

Mae risgiau colonosgopi yn brin ond mae angen i chi wybod amdanynt fel y byddwch yn gallu penderfynu ynghylch cael y prawf.

Rhaid cymharu’r risgiau â’r fantais o gael y prawf.

Prif risgiau colonosgopi yw:

  • Rhwyg – Mae leinin y coluddyn yn rhwygo mewn 1 o bob 1,000 o brofion  Mae angen llawdriniaeth bron bob amser i gyweirio’r twll.  Mae’r risg o rwyg yn uwch pan fydd polypau (tyfiannau bach) wedi’u tynnu.
  • Gwaedu – gall hyn ddigwydd lle cymerir y sampl o’ch coluddyn neu pan dynnir polyp. Mae’r risg y bydd hyn yn digwydd mewn oddeutu un o bob 100-200 o brofion. Nid yw’r gwaedu a ddigwydd fel arfer yn ddifrifol ac mae’n aml yn stopio ar ei ben ei hun.
Mae gennyf rai o symptomau canser y coluddyn. Beth ddylwn i ei wneud?

Os oes gennych unrhyw symptomau, dylech siarad â’ch meddyg.  Gall symptomau gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau gan gynnwys canser. Os anfonwyd pecyn profi atoch, rydym yn argymell eich bod yn dal i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio.

A oes unrhyw gyflyrau eraill a all fod â symptomau tebyg i ganser y coluddyn?

Oes, mae nifer o gyflyrau cyffredin y coluddyn sydd â symptomau tebyg i ganser y coluddyn. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Hemoroidau (y peils), holltau yn yr anws (rhwygau yn leinin y pen-ôl neu’r croen o’i gwmpas), polypau (tyfiannau bach yn y coluddyn), Syndrom Coluddyn Llidus (IBS), Clefyd Cildroadol neu Glefydau Llid y Coluddyn megis Llid Briwiol y Coluddyn neu Glefyd Crohn.

Os ydych chi’n meddwl bod gennych unrhyw un o’r cyflyrau hyn, dylech siarad â’ch meddyg.

Beth alla i ei wneud i helpu i atal canser y coluddyn?

Gallwch gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio’r coluddyn bob dwy flynedd pan fyddwch yn cael eich gwahodd.  Gallwch hefyd ofalu am eich iechyd drwy gadw’n heini, bwyta’n iach, yfed llai o alcohol a rhoi’r gorau i ysmygu.

Rwyf wedi cael neges destun yn gofyn i mi ffonio, beth yw’r rheswm dros hyn?

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn rhedeg prosiect a ariennir gan CRUK ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau pecyn prawf nad ydynt wedi cysylltu â ni eto.

Ffoniwch ein rhif rhadffôn 02921 673329 i siarad ag aelod o staff penodedig Sgrinio Coluddion Cymru.

Rwyf wedi colli galwad o 02921 673329, pwy wnaeth ffonio fi?

Ceisiodd aelod o staff Sgrinio Coluddion Cymru eich ffonio am ganlyniad eich prawf.

Ffoniwch ein rhif rhadffôn 02921 673329 i siarad ag aelod o staff penodedig.