Neidio i'r cynnwys

Beichiogrwydd heb ei gynllunio - Mabwysiadu

Efallai mai mabwysiadu fydd y dewis cywir i chi os nad ydych chi am fod yn rhiant, ond nad ydych chi am gael erthyliad chwaith.

Beth yw mabwysiadu?

Mae mabwysiadu yn ffordd o roi rhieni newydd i blentyn. Byddwch chi’n parhau â’r beichiogrwydd ac yn geni’r babi, ond ni fyddwch chi’n gofalu amdano ac ni fydd gennych chi hawliau na chyfrifoldebau cyfreithiol mewn cysylltiad â’r plentyn pan fydd y broses mabwysiadu wedi’i chwblhau.

Mae mabwysiadu yn broses ffurfiol sy’n cael ei threfnu gan asiantaethau mabwysiadu ac awdurdodau lleol, ac sy’n cael ei gwneud yn gyfreithlon gan y llysoedd. Unwaith mae achos o fabwysiadu’n gyfreithlon, mae’r penderfyniad yn derfynol a does dim modd ei newid.

Sut mae mabwysiadu yn digwydd?

Gallwch chi ddechrau cynllunio ar gyfer mabwysiadu ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd, ond ni fydd y broses wedi’i chwblhau tan ar ôl i’r babi gael ei eni. Bydd gofyn i chi lofnodi dogfen ffurfiol yn cytuno i’r mabwysiadu, ond nid oes modd gofyn i chi wneud hyn nes bod y babi yn chwech wythnos oed. Dydy’r cytundeb ddim yn golygu bod y mabwysiadu yn derfynol.

Fel arfer bydd y babi yn mynd at ofalwyr maeth am gyfnod byr tra bo trefniadau’n cael eu gwneud i’r babi symud at y rhieni sy’n mabwysiadu. Nhw wedyn fydd yn gofalu am y babi ac yn gwneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu. Pan fyd y gorchymyn yn cael ei roi, mae’r mabwysiadu yn derfynol, ac nid chi fydd rhiant cyfreithiol y babi mwyach.

Oes modd i mi newid fy meddwl?

Gallwch chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg cyn i’r mabwysiadu gael ei wneud yn gyfreithlon, ond efallai na fydd hi’n hawdd neu’n bosib hyd yn oed cael y babi yn ôl. Bydd y llys yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar beth sydd orau i’r babi. Pan fydd y mabwysiadu yn gyfreithlon, bydd y babi yn aros gyda’r rheini sy’n mabwysiadu, hyd yn oed os ydych chi’n newid eich meddwl.

Beth sydd angen i mi ei wneud os ydw i’n dewis mabwysiadu?

Efallai y bydd hi’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am fabwysiadu, gan gynnwys:

  • Gweithiwr mabwysiadu yn adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol, neu mewn asiantaeth mabwysiadu gwirfoddol lleol.
  • Meddyg neu nyrs yn eich practis meddyg teulu
  • Gweithiwr cymdeithasol yn yr ysbyty (cysylltwch â’ch ysbyty lleol i weld a oes gweithiwr cymdeithasol yn gysylltiedig a’r ward mamolaeth)

Os ydych chi’n ystyried mabwysiadu, bydd y gweithiwr cymdeithasol neu’r asiantaeth mabwysiadu sy’n eich cefnogi yn trefnu cwnsela mabwysiadu arbennig. Pwrpas hyn yw gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth mae mabwysiad yn ei olygu, ac i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi.

Erbyn hyn, mae holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol yng nghymru yn gweithio gyda’i gilydd mewn 5 cydweithrediad rhanbarthol. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael mwy o wybodaeth am fabwysiadu:

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Yn cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn.

01978 295311 neu 0800 085 0774

[email protected]

Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

0300 30 32 505

[email protected]

Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru

Yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

01495 355766

[email protected]

Gwasanaeth Mabwysiadau Bae’r Gorllewin

Yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

0300 365 2222

enquiries@westernbayadoptionorg

Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

Yn cynnwys Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

0800 023 4064

[email protected]

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Ebrill 2025