Beichiogrwydd heb ei gynllunio - Erthyliad
Erthyliad yw’r broses feddygol o ddod â beichiogrwydd i ben. Mae terfynu yn enw arall arno.
Os ydych chi’n feichiog ac yn ystyried erthylu, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Bydd 1 o bob 3 merch yn y deyrnas unedig yn cael erthyliad cyn eu bod yn 45 oed.
Pwy sy’n gallu cael erthyliad?
Gall pob merch yn y deyrnas unedig gael erthyliad, dim ots faint oed yw hi.
Penderfynu cael erthyliad
Bydd llawer o ferched yn teimlo’n sicr eu bod am gael erthyliad, ac eraill yn ei chael hi’n anoddach penderfynu.
Dylai pob merch sy’n gofyn am erthyliad gael y cyfle i drafod eu dewisiadau. Mae gwybodaeth a chymorth diduedd ar gael gan y canlynol:
- Eich meddyg teulu neu feddyg arall yn eich practis meddyg teulu
- Gwasanaeth cwnsela yn y clinig erthylu
- Elusennau fel y British Pregnancy Advisory Services (BPAS) a Marie Stopes International (MSI) – byddwch yn wyliadwrus o leoedd sy’n galw eu hunain yn “ganolfannau beichiogrwydd mewn argyfwng” (“crisis pregancy centres”) sy’n honni eu bod yn darparu cyngor diduedd, ond yn aml yn peidio â gwneud hynny
Efallai y byddwch yn dymuno siarad â’ch partner, eich ffrindiau neu eich teulu hefyd i gael cefnogaeth i’ch penderfyniad.
Os nad ydych chi am i unrhyw un wybod, bydd eich manylion yn cael eu cadw’n gyfrinachol. Os ydych chi o dan 16 oed, does dim angen dweud wrth eich rhieni fel arfer.
Sut mae cael erthyliad – beth ydw i’n ei wneud nesaf?
Y ffordd fwyaf syml yw cysylltu â’ch gwasanaeth lleol.
Rhifau hunangyfeirio ar gyfer erthyliad yng Nghymru:
| Aneurin Bevan | 01633 431743 |
| Betsi Cadwaladr | 03457 304030 |
| Caerdydd a’r Fro | 02921 842638 |
| Cwm Taf | 01685 728497 |
| Hywel Dda | 01267 248674 |
| Bae Abertawe | 01792 200303 |
Neu:
- Gallwch chi gysylltu â darparwr erthyliadau yn uniongyrchol – y British Pregnancy Advisory Service (BPAS (Saesneg)) neu Marie Stopes International (MSI (Saesneg)).
- Os yw’n well gennych chi, siaradwch â’ch meddyg teulu a bydd ef neu hi yn gallu rhoi manylion cyswllt gwasanaeth erthylu lleol i chi.
- Ewch i glinig atal cenhedlu, clinig cynllunio teulu, clinig iechyd rhywiol neu glinig genhedlol-wrinol (gum) a gofyn am atgyfeiriad i wasanaeth erthylu. Gallwch chi weld y clinigau cyfagos ar wefan GIG 111 Cymru.
Mae amseroedd aros gwasanaethau yn gallu amrywio, ond dylech chi ddim gorfod aros mwy na 5 diwrnod gwaith ar ôl eich apwyntiad cyntaf i gael erthyliad.
Gallwch chi hefyd dalu i gael erthyliad yn breifat os yw’n well gennych chi. Mae costau erthyliadau preifat yn amrywio yn ôl cam y beichiogrwydd a’r dull sy’n cael ei ddefnyddio i gyflawni’r broses.
Pryd mae angen i mi benderfynu?
Mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n sicr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir i chi. Ond hyd yn oed os nad ydych chi’n hollol siŵr, dylech chi gysylltu â’ch clinig i drefnu ymgynghoriad. Mae modd teilwra’r driniaeth a’i gohirio os nad ydych chi’n siŵr am eich penderfyniad.
Mae hyd eich beichiogrwydd yn cael ei gyfrifo o ddiwrnod cyntaf eich mislif. Os nad ydych chi’n siŵr ers faint rydych chi’n feichiog, efallai y bydd angen sgan uwchsain arnoch chi.
Po gynharaf y caiff erthyliad ei wneud, y mwyaf syml a diogel ydyn nhw. Bydd cael cyngor yn fuan yn y broses yn rhoi mwy o amser i chi wneud penderfyniad os nad ydych chi’n siŵr.
A fydd rhywun arall yn cael gwybod am fy erthyliad?
Os byddwch chi’n cael erthyliad, dim ots faint oed ydych chi, mae gennych chi hawl i’r wybodaeth honno aros yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu nad oes modd rhannu’r wybodaeth honno ag unrhyw un arall heb i chi gytuno i hynny.
Os ydych chi’n poeni o gwbl am gyfrinachedd, gallwch chi drafod hyn â’ch meddyg neu eich nyrs.
- Does dim rhaid i’ch meddyg teulu wybod. Mae rhai gwasanaethau erthylu yn dymuno anfon llythyr at eich meddyg teulu. Ni ddylen nhw wneud hynny heb eich caniatâd chi.
- Nid oes rhaid i’ch partner, neu’r person sydd wedi eich beichiogi, wybod am yr erthyliad a does ganddynt ddim hawliau cyfreithiol i wneud penderfyniad am y peth. Gallwch chi fwrw ymlaen ag erthyliad heb wybodaeth neu gytundeb partner.
- Os ydych chi o dan 16 oed, gallwch chi gael erthyliad heb roi gwybod i’ch rhieni neu’ch gofalwyr. Bydd y meddygon yn eich annog i roi gwybod i’ch rhieni neu i oedolyn cefnogol arall, ond os byddwch chi’n dewis peidio, bydd hynny’n cael ei barchu.
- Os oes gennych chi anabledd dysgu, gallwch chi gael erthyliad heb roi gwybod i’ch gofalwyr. Ond mae hwn yn fater cymhleth ac efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol weithiau. Os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o’ch bywyd yn barod, byddant yn gweithredu er eich lles gorau chi, a allai olygu rhoi gwybod i rieni neu ofalwyr, gyda’ch cytundeb chi.
Cyfrinachedd
Mae’r holl wybodaeth, cyngor a gwasanaethau yn gyfrinachol, ond mae’n rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan roi gwybod i chi, gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn amau eich bod chi neu berson arall mewn perygl sylweddol o niwed (er enghraifft cam-drin rhywiol, emosiynol neu gorfforol).
Beth sy’n digwydd yn ystod erthyliad?
Cyn cael erthyliad, byddwch yn cael apwyntiad i drafod eich penderfyniad a’r camau nesaf. Gallai’r apwyntiad hwn ddigwydd dros y ffôn neu alwad fideo yn hytrach na mewn clinig.
Lle bo’n bosib, dylech chi gael dewis o ran sut hoffech chi i’r erthyliad ddigwydd. Mae dau ddewis:
- Erthyliad meddygol (y “bilsen erthylu”) – rydych chi’n cael dwy feddyginiaeth, 24 i 48 awr ar wahân fel arfer, i achosi camesgoriad (miscarriage)
- Erthyliad llawfeddygol – rydych chi’n cael triniaeth fach i ddileu’r beichiogrwydd, ac yn cael mynd adref yn fuan wedyn fel arfer
Ar ôl erthyliad, mae’r rhan fwyaf o ferched yn gallu bwrw ymlaen â’u gweithgareddau arferol o’r diwrnod canlynol ymlaen. Bydd ychydig ddiwrnodau o waedu o’r wain, yn enwedig ar ôl erthyliad meddygol.
Cymlethdodau posib
Mae llai o risg yn gysylltiedig â chael triniaeth erthylu o gymharu â pharhau â beichiogrwydd i’w gyfnod llawn. Mae’r cymhlethdodau sydd wedi’u rhestru isod yn anghyffredin, a byddant yn cael eu trin gan eich clinig:
- Haint ar y groth – yn digwydd mewn hyd at 1 o bob 10 erthyliad; gellir ei drin â gwrthfiotigau fel arfer
- Rhywfaint o’r beichiogrwydd yn aros yn y groth – yn digwydd mewn hyd at 1 o bob 20 erthyliad; efallai y bydd angen triniaeth bellach os bydd hyn yn digwydd
- Y beichiogrwydd yn parhau – yn digwydd mewn llai na 1 o bob 100 erthyliad; bydd angen triniaeth bellach os bydd hyn yn digwydd
- Gwaedu gormodol – yn digwydd mewn tua 1 o bob 100 erthyliad llawfeddygol; mae angen am drallwysiad gwaed yn llai cyffredin.
- Difrod i’r groth – yn digwydd mewn hyd at 4 o bob 1,000 erthyliad llawfeddygol, ac mewn llai nag 1 o bob 1,000 erthyliad meddygol sy’n cael eu gwneud ar ôl 12-24 wythnos
Gwybodaeth ychwanegol:
- Nid yw merched sy’n cael erthyliad yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl na’r rheini sy’n parhau â’u beichiogrwydd
- Hefyd, does dim cyswllt rhwng cael erthyliad a risg uwch o ganser y fron
- Fel arfer, ni fydd cael erthyliad yn effeithio ar eich siawns o ddod yn feichiog a chael beichiogrwydd arferol yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn gallu beichiogi yn syth wedyn hyd yn oed, a dylech chi ddefnyddio dull atal cenhedlu os ydych chi am osgoi hynny.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Mai 2025