Neidio i'r cynnwys

Beichiogrwydd heb ei gynllunio - Prawf beichiogrwydd bositif

Prawf bositif – beth nawr?

Os yw’r prawf beichiogrwydd yn bositif, mae hyn yn golygu eich bod yn feichiog. Mae’r holl brofion yn ddibynadwy iawn.

Pryd mae’n rhaid i mi wneud penderfyniad am beth i’w wneud?

Er eich bod yn teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad o bosib, mae’n bwysig cymryd amser i ystyried eich dewisiadau a gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir i chi.

Wrth wneud eich penderfyniad, efallai y bydd hi’n ddefnyddiol ystyried y canlynol:

  • Eich bywyd ar hyn o bryd. Beth sydd fwyaf pwysig i chi mewn bywyd ar hyn o bryd? Gall hyn gynnwys pethau fel teulu, ffrindiau, gwaith, addysg.
  • Eich dyfodol. Beth yw eich gobeithion a’ch nodau i’r dyfodol?

Mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth pan fydd ei angen arnoch chi, ac nad ydych chi’n teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad nad ydych chi eisiau ei wneud. Eich penderfyniad chi yw hyn. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i benderfynu.

Gallwch chi ddewis:

  • Parhau â’r beichiogrwydd a bod yn rhiant
  • Dod â’r beichiogrwydd i ben drwy gael erthyliad
  • Parhau â’r beichiogrwydd a dewis mabwysiadu

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Tachwedd 2025