Brechlyn eryr - Am y brechlyn eryr
Bydd y brechlyn eryr yn lleihau eich siawns o ddatblygu’r eryr a’r sgil-effeithiau poenus hirdymor, gan gynnwys niwralgia ôl-herpetig (PHN). Os byddwch yn cael yr eryr, mae’n debyg y bydd yn salwch ysgafnach a byrrach os ydych wedi cael y brechlyn.
Beth yw brechlyn yr eryr?
Shingrix yw enw’r brechlyn rhag yr eryr. Mae’n cael ei roi fel pigiad i gyhyr rhan uchaf y fraich.
Nid yw Shingrix yn frechlyn byw, sy’n golygu nad yw’n cynnwys feirws byw. Gallwch ddarllen y daflen wybodaeth ganlynol i gleifion os hoffech ddysgu rhagor am y brechlyn ar wefan EMC (safle allanol).
Os ydych yn gymwys, gallwch gael y brechlyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Y tro nesaf y byddwch yn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gofynnwch iddynt am y brechlyn eryr.
Sawl dos fydd ei angen arnaf?
Bydd angen dau ddos arnoch chi:
- Os oes gennych system imiwnedd wan iawn, dylech gael yr ail ddos o leiaf wyth wythnos ar ôl eich dos cyntaf.
- Os nad oes gennych system imiwnedd wan iawn, dylech gael yr ail ddos o leiaf chwech i 12 mis ar ôl eich dos cyntaf.
Unwaith y byddwch wedi cael y ddau ddos, nid oes angen rhagor o frechlynnau’r eryr arnoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y brechlyn eryr, siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs practis.
Sut byddaf yn cael y brechlyn?
Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i wneud apwyntiad pan fyddwch yn gymwys.
Os na fyddant, neu os ydych yn meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad, cysylltwch â nhw a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl ei bod yn bryd i chi gael brechlyn yr eryr.
A oes angen i mi gael y brechlyn bob blwyddyn?
Na, unwaith y byddwch wedi cael y ddau ddos, ni fydd angen rhagor o frechlynnau’r eryr arnoch.
A yw’r brechlyn eryr yn cynnwys gelatin porc?
Er bod gelatin yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o fwydydd a meddyginiaethau, yn cynnwys rhai brechlynnau, nid yw’r brechlyn rhag yr eryr a ddefnyddir yn y DU ar hyn o bryd (Shingrix) yn cynnwys gelatin porc.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14eg Awst 2025