Atal cenhedlu - Atal cenhedlu brys
Gall dulliau atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb ddiogelwch neu os yw eich dull atal cenhedlu wedi methu – er enghraifft, os yw condom wedi rhwygo neu os ydych wedi anghofio cymryd pilsen.
Mae dau fath:
- PILSEN ATAL CENHEDLU BRYS – Levonelle neu ellaOne (sydd weithiau’n cael ei galw’n bilsen bore wedyn) Mae angen i chi gymryd y bilsen atal cenhedlu brys cyn pen 3 diwrnod (Levonelle) neu 5 diwrnod (ellaOne) ar ôl rhyw heb ddiogelwch iddi fod yn effeithiol – gorau po gyntaf y byddwch yn ei chymryd, er mwyn iddi fod yn fwy effeithiol.
- Dyfais IUCD (dyfais fewngroth, neu’r coil) – Gellir gosod y ddyfais IUCD hyd at 5 diwrnod ar ôl rhyw heb ddiogelwch, neu hyd at 5 diwrnod ar ôl yr amser cynharaf y gallech fod wedi ofylu (rhyddhau wy o’r ofari), iddi fod yn effeithiol.
Mae’r IUCD yn fwy effeithiol na’r bilsen atal cenhedlu er mwyn atal beichiogrwydd – mae llai nag 1% o’r menywod sy’n defnyddio’r IUCD yn beichiogi.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am atal cenhedlu brys.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025