Y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth

Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth ar gyfer y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch staff eraill o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am drefniadau’r Ymddiriedolaeth ynghylch tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau cytundebol ar gyfer yr holl staff, yn unol â’r gofynion a’r safonau a bennir ar gyfer GIG Cymru.

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth mewn sesiwn breifat. Adroddir ar gofnodion y cyfarfod yn y cyfarfod canlynol o’r Bwrdd.

Gweld / lawrlwytho’r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yma.

Pwy yw pwy

Aelodau

Lleiafswm o bedwar:

Cadeirydd Pippa Britton
Cyfarwyddwyr Anweithredol Pob Cyfarwyddwr Anweithredol
Prif Weithredwr Tracey Cooper

Yn bresennol

Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae’n cynnwys yr isod:

Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl Neil Lewis
Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid Angela Williams
Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd Paul Veysey

Cadeirydd y Pwyllgor sy’n penderfynu pa mor aml y mae’n cyfarfod, gyda chytundeb Aelodau’r Pwyllgor, ond mae disgwyl iddo gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.