Y Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd
Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r Bwrdd am ansawdd ac effaith ein gwybodaeth, gwybodaeth iechyd a gweithgareddau ymchwil a hefyd ansawdd data a threfniadau llywodraethu gwybodaeth yn y sefydliad.
Gallwch weld / lawrlwytho’r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd yma.
Cyfarfodydd
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac, fel arall, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol. Nodir dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd isod.
Pwy yw pwy
Aelodau
Lleiafswm o dri:
| Cadeirydd a Cyfarwyddwr Anweithredol | Sian Griffiths |
| Cyfarwyddwyr Anweithredol |
Tamsin Ramasut Clare Jenkins |
Yn bresennol
Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae’n cynnwys yr isod:
| Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymchwil | Iain Bell |
| Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol | Sumina Azam |
| Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu | Claire Birchall |
| Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, a Chyfarwyddwr Meddygol | Dr Fu-Meng Khaw |
| Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles | Jim McManus |
| Prif Swyddog Risg | John Lawson |
| Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd (neu eu henwebai) | Paul Veysey |
| Cynrychiolydd o’r Fforwm Partneriaeth Staff | Swydd yn wag |