Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Awduron: Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
Adolygwyd: Mehefin 9, 2022
Tabl cynnwys:
Crynodeb:
Gallai cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19 roi cyfrif am rai o’r amcangyfrifon gwaeth o ran disgwyliad oes a welwyd yn 2018-2020. Fodd bynnag, nodwyd ataliad yn y gwelliant mewn disgwyliad oes cyn y pandemig fel rhan o Disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru 2020. Mae rhai esboniadau posibl a restrwyd ar gyfer disgwyliadau iechyd gwaeth ac anghydraddoldebau cynyddol yn cynnwys twf cyflogau isel, tlodi tanwydd, ansicrwydd bwyd, a’r cyfnod o gyni yng Nghymru ers 2010/11 fel yr amlygwyd gan Syr Michael Marmot1. Mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw yn bwysau ychwanegol a allai gynyddu anghydraddoldebau ymhellach o ran disgwyliadau iechyd am na fydd aelwydydd incwm isel efallai’n gallu fforddio hanfodion sylfaenol fel bwyd a gwres i gynnal safon byw digonol. Mae 'Cymru Sy’n Fwy Cyfartal' yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig i helpu i fesur anghydraddoldebau mewn iechyd ac maent wedi eu cynnwys yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
Adroddiadau perthnasol
-
Cynyddodd anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes tra bo anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes iach wedi aros yn sefydlog
Negeseuon allweddol Gweld y Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb Dealltwriaeth Gallai’r cyfraddau marwolaethau uwch yn 2020 yn sgil pandemig COVID-19 fod yn gyfrifol am rywfaint o’r gwaethygiad o […]
Cyhoeddwyd: 9fed Mehefin 2022
Setiau data cysylltiedig
Ni ddewiswyd tudalennau data perthnasol