Neidio i'r cynnwys

Ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd

Beth yw stiwardiaeth gwrthficrobaidd?

Ymwrthedd i wrthfiotigau (Saesneg yn unig) yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n ein hwynebu. Mae gwrthfiotigau’n cael eu defnyddio i drin heintiau a achosir gan facteria, ond bob tro rydym yn eu cymryd, rydym yn rhoi’r cyfle i’r bacteria ymladd yn ôl. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn digwydd pan fydd bacteria’n dod o hyd i ffordd o drechu’r cyffuriau sydd wedi’u dylunio i’w lladd.

Mae gwrthfiotigau’n mynd yn llai effeithiol oherwydd ein bod yn eu gorddefnyddio ac, mewn rhai achosion, yn eu camddefnyddio. Mae hon yn broblem rhaid i ni daclo nawr cyn i bethau waethygu.

Mae bron i 5 miliwn o bobl yn marw dros y byd bob blwyddyn oherwydd heintiau sy’n gysylltiedig ag ymwrthedd i wrthfiotigau. Oni bai ein bod yn gweithredu nawr, ni fydd triniaethau rheolaidd fel cemotherapi, trawsblannu organau a gosod cymalau newydd yn bosibl mwyach gan na fydd y gwrthfiotigau sydd eu hangen i’w gwneud yn ddiogel yn effeithiol.

Mae gwrthfiotigau’n adnodd gwerthfawr ac mae angen i ni eu trin fel hynny. Rhaid i ni i gyd weithredu nawr i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.

Trawsysgrif – Beth yw gwrthsefyll gwrthfiotigau?

Pryd oedd y tro diwethaf I chi gael haint mae’n siwr nad oedd yn breeder mawr oherwydd rydych chi’n gwybod y gallwch chi gael gwrthfiotigau ond y broblem ydi nad ydi gwrthfiotigau’n lladd bacteria cystal ag yr oedden nhw’n arfer gwneud.

Mae’r bacteria wedi datblygu ymwrthedd ac a dweud y gwir mae gan rai bacteria ymwrthedd llwyr nawr I’r holl wrthfiotigau sydd ar gael. Dyma un o’r bygythiadau mwyaf I bawb ar y ddaear a dim ond mynd yn waeth wnaiff y broblem.

Oni bai ein bod ni’n gweithredu’n gyflym a gyda’n gilydd, rydyn ni’n mynd I gyrraedd oes lle na fydd unrhyw wrthfiotigau’n gweithio, bydd fel mynd yn ol I’r 1930au cyn eu darganfod. Roedd heintiau sy’n cael hysturied yn ddibwys nawr yn rhai angheuol yn aml bryd hynny, roedd llawdeiniaethau cymhleth yn amhosib oherwydd y risg o ddatblygu haint, a dweud y gwir, mae meddygaeth fodern yn dibynnu’n aruthrol ar wrthfiotigau.

Oeddech chi’n gwybod bod triniaeth canser yn dinistro’r system imiwnedd ac mae’r rhan fwyaf o gleifion angen gwrthfiotigau i oroesi? Dychmygwch ddim mwy o lawdriniaethau calon, bowel neu esgyrn, dim mwy o driniaethau canser. Dyma’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd iddo ond gyda dim ond tri cham syml fe allwn ni gyd ddod yn warcheidwad gwrthfiotigau.

Cam 1: Peidiwch a mynnu gwrthfiotigau gan eich meddyg rydyn ni I gyd wedi erfyn am wrthfiotigau am ein bod ni’n teimlo’n ofnadwy enu’n waeth fyth, yn edrych aro l plentyn sal. Dydyn ni ddim angen gwrthfiotigau bob tro ac er bod heintiau o ddydd I ddydd yn gwneud I chi deimlo’n sal dydi gwrthfiotigau ddim yn gallu gwneud llawer o wahaniaeth I annwyd, ffliw, dolur gwddw a pheswch felly gofynnwch I’ch fferllydd am feddygyniaeth dros y cownter fedr drin eich symptomau chi.

Cam 2: Cymerwch unrhyw wrthfiotigau yn union fel mae’r presgripsiwn yn dweud, a pheidiwch byth a’u cad war gyfer eu defnyddio yn y dyfodol, ac peidiwch byth a’u rhoi I rywun arall. Fe fyddan nhw’n gweithio’n well ac mae’r bacteria’n llai tebygol o ddatblygu ymwrthedd.

Cam 3: Lledaenwch y gair dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu am ddefnyddio gwrthfiotigau yn briodol, anfonwch y fideo yma atyn nhw a’i rhannu.

Gwrthfiotigau yw rhai o’n meddygyniaethau mwyaf gwerthfawr ac rydyn ni’n mynd I’w colli nhw oni bai ein bod ni I gyd yn dod yn warcheidwaid gwrthfiotigau.

Sut y gallwn gadw gwrthfiotigau i weithio? 

Cofiwch, nid gwrthfiotigau yw’r ateb bob amser. Pan fyddant yn cael eu rhagnodi, maent yn cael eu rhagnodi’n benodol i chi a’ch haint.  

Trwy ddilyn y camau hyn gallwn ni gyd chwarae rhan i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.  

  • Dylech gymryd gwrthfiotigau dim ond pan fydd eich meddyg, fferyllydd, nyrs neu ddeintydd yn dweud wrthych. 
  • Dylech bob amser gymryd gwrthfiotigau yn union fel y’u rhagnodwyd. 
  • Peidiwch byth â chadw gwrthfiotigau ar gyfer nes ymlaen neu eu rhoi i rywun arall. 

Ar gyfer beth y dylid defnyddio gwrthfiotigau?

Mae gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio i drin heintiau a achosir gan facteria. Dim ond pan fyddant yn cael eu rhagnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol y dylid eu cymryd. Dim ond pan fydd eu hangen arnoch y bydd eich meddyg yn rhagnodi gwrthfiotigau– er enghraifft, ar gyfer  haint ar yr arennau neu niwmonia. Mewn rhai achosion, fel pan fyddant yn cael eu defnyddio i drin llid yr ymennydd, gall gwrthfiotigau achub bywyd.  

Os nad ydym yn defnyddio gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen arnom, byddant yn fwy tebygol o weithio pan fydd eu gwir angen. 

Pam na ddylid defnyddio gwrthfiotigau i drin annwyd, peswch a dolur gwddf?

Dim ond i drin heintiau a achosir gan facteria y dylid defnyddio gwrthfiotigau.  

Mae’r holl annwyd a’r rhan fwyaf o beswch a dolur gwddf yn cael eu hachosi gan feirysau.  Yn gyffredinol, bydd eich corff yn ymladd yr heintiau hyn ar ei ben ei hun.  

Os byddwch yn cymryd gwrthfiotigau ar gyfer haint feirysol, rydych yn amlygu bacteria yn eich perfedd i wrthfiotigau yn ddiangen. Bydd y bacteria hyn yn gwrthsefyll y gwrthfiotigau a gallent achosi haint yn ddiweddarach.  

A all ymwrthedd i wrthfiotigau ledaenu?

Gall. Nid arnoch chi yn unig y mae bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn effeithio. Gallant ledaenu’n hawdd i bobl eraill (ac anifeiliaid), yn enwedig y rhai sydd mewn cyswllt agos â chi, fel eich teulu, eich ffrindiau a’ch anwyliaid.

Sut y dylwn gael gwared ar wrthfiotigau?

Dylech bob amser ddychwelyd gwrthfiotigau heb eu defnyddio i’ch fferyllfa leol. Gallant eu gwaredu’n ddiogel. Peidiwch byth â thaflu gwrthfiotigau i’r bin neu eu fflysio i lawr y sinc neu’r toiled. Mae hyn yn llygru ein ffynonellau dŵr, gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.

Beth fydd yn digwydd os na allwn atal lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau?

Os na fyddwn yn arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau ar unwaith, erbyn 2050, yn fyd-eang amcangyfrifir y bydd 10 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn o heintiau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae hynny’n un person sy’n marw bob tair eiliad o haint na allwn ei drin mwyach.

Yn y dyfodol, bydd y risg o haint mor uchel fel y bydd ymyriadau meddygol sy’n gyffredin heddiw, fel triniaethau canser a llawdriniaeth, yn rhy beryglus i’w cyflawni. 

Taflenni i drafod gyda chleifion

Gellir dod o hyd i daflenni i’w trafod gyda chleifion ar wefan e-ddysgu RCGP (Saesneg yn unig).

Hwb pecyn cymorth gwrthfiotig TARGET

Mae TARGET yn sefyll am Trin Gwrthfiotigau yn Gyfrifol, Canllawiau, Addysg a Chymorth (Treat Antibiotics Responsibly, Guidance, Education and Tools). Mae’n becyn cymorth (Saesneg yn unig) sydd wedi’i ddylunio i gefnogi clinigwyr gofal sylfaenol i hyrwyddo a gweithredu gweithgareddau stiwardiaeth wrthficrobaidd. Gellir defnyddio’r adnoddau hefyd i gefnogi gofynion DPP ac ailddilysu.

  • SharePoint HARP

    Mae adroddiadau pellach i staff y GIG ar gael ar safle SharePoint HARP (Cynnwys sydd ar gael yn Saesneg).

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data