Sgrinio llygaid diabetig
Beth yw sgrinio llygaid diabetig?
Diabetes yw prif achos colli golwg y gellir ei atal yn y DU.1
1Diabetes DU Retinopathi glewyddo. Ar gael yn: Retinopathi glewyddol | Diabetes a phroblemau llygaid | Diabetes UK (Saesneg yn unig) [Cyrchwyd ar: Tachwedd 2022]
Os oes gennych ddiabetes, gall siwgr uchel yn y gwaed (glwcos) neu newidiadau mawr mewn lefelau siwgr yn y gwaed niweidio cefn y llygad (retina). Gelwir hyn yn retinopathi diabetig. Ni sylwir ar y newidiadau cynnar hyn i’ch retina yn aml. Gall prawf sgrinio llygaid diabetig ddarganfod newidiadau yn eich llygaid cyn iddynt effeithio ar eich golwg.
Mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn golygu tynnu ffotograffau o’ch llygaid i wirio am newidiadau.
Bydd pawb sy’n 12 oed neu’n hŷn sydd wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig.
Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i ni (Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru). Byddwn yn anfon llythyr atoch yn eich gwahodd gyda dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad bob tro y bydd yn bryd i chi gael prawf sgrinio llygaid diabetig.
Os na chanfu eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig, byddwch bellach yn cael eich sgrinio bob dwy flynedd. Mae hyn oherwydd rydych yn wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig. Os canfyddir newidiadau, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, cysylltwch â’ch practis optometreg. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.
Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig
Dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Mae’r wybodaeth yn yr adrannau canlynol yn egluro’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sgrinio llygaid diabetig.
- Rhesymau dros fynd i sgrinio llygaid diabetig
- Eich gwahoddiad i sgrinio llygaid diabetig
- Eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig
- Eich canlyniadau sgrinio llygaid diabetig
- Arwyddion a symptomau retinopathi diabetig
Pam mae profion sgrinio llygaid diabetig yn bwysig?
Mae mynd i gael eich prawf sgrinio llygaid diabetig yn un o’r pethau y gallwch chi ei wneud i ofalu am eich golwg.
Mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn bwysig oherwydd:
- Gall sgrinio ddod o hyd i newidiadau yn eich llygaid cyn iddynt ddechrau effeithio ar eich golwg.
- Nid yw retinopathi diabetig fel arfer yn achosi unrhyw symptomau yn ystod y camau cynnar.
- Gall monitro a thriniaeth arafu neu wrthdroi newidiadau a achosir gan retinopathi diabetig.
- Gall retinopathi diabetig achosi dallineb os na fydd yn cael ei ddiagnosio a’i drin.
Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ffonio oedolion sydd heb ddod i’w gwahoddiad sgrinio. Pwrpas hyn yw helpu i aildrefnu profion sgrinio ar gyfer yr unigolion hynny sy’n dymuno derbyn y cynnig o brawf sgrinio yn ogystal â deall yn well y rhesymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cynnig. Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, ynghyd â’n gwerthusiad o effaith y gwaith hwn, yn helpu i lywio sut rydym yn datblygu ein gwasanaethau sgrinio yn y dyfodol. Gall pobl sy’n derbyn galwad ffôn o 02920 537280 y maent yn dymuno gwirio bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â nhw neu a hoffai gael cymorth i drefnu prawf sgrinio, ffonio Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0500 neu ebost [email protected]
Adroddiadau
Adroddiadau rhaglen sgrinio llygaid diabetig
Data
Data am gwmpas sgrinio llygaid diabetig a’r nifer sy’n cael eu sgrinio
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn ôl clwstwr Meddygon Teulu 2019 i 2020
Diffinir y niferoedd sydd wedi manteisio fel y ganran o gleifion gweithredol cymwys, ar adeg…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn ôl clwstwr Meddygon Teulu 2018 i 2019
Diffinir y niferoedd sydd wedi manteisio fel y ganran o gleifion gweithredol cymwys, ar adeg…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn ôl awdurdod lleol a bwrdd iechyd 2019 i 2020
Diffinir y niferoedd sydd wedi manteisio fel y ganran o gleifion gweithredol cymwys, ar adeg…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn ôl awdurdod lleol a bwrdd iechyd 2018 i 2019
Diffinir y niferoedd sydd wedi manteisio fel y ganran o gleifion gweithredol cymwys, ar adeg…