Sgrinio coluddion
Gofyn am becyn prawf coluddyn
Gofyn am becyn sgrinio coluddynBeth yw sgrinio’r coluddyn?
Mae sgrinio’r coluddyn yn chwilio am ganser y coluddyn cyn i’r symptomau ymddangos. Bydd o leiaf 9 o bob 10 unigolyn yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a’i drin yn gynnar.
Nod prawf sgrinio’r coluddyn yw dod o hyd i ganser yn gynnar pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol.
Mae prawf sgrinio’r coluddyn yn golygu cwblhau pecyn profi gartref. Mae’r prawf sgrinio yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ.
Bydd pobl rhwng 50 a 74 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio’r coluddyn bob 2 flynedd.
Ynglŷn â chanser y coluddyn
Canser y coluddyn yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae dros 2,200 o achosion newydd o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae canser y coluddyn yn fwy cyffredin wrth i chi fynd yn hŷn. Mae’r rhan fwyaf o achosion o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio mewn pobl dros 50 oed.
Mae canser y coluddyn yn effeithio ar y coluddyn mawr, sy’n cynnwys y colon a’r rectwm. Fe’i gelwir hefyd yn ganser y colon a’r rhefr.
Mae’r celloedd yn eich corff fel arfer yn rhannu ac yn tyfu mewn modd rheoledig. Pan fydd canser yn datblygu, mae’r celloedd yn newid a gallant dyfu mewn modd ni ellir ei reoli.
Mae’r rhan fwyaf o ganserau’r coluddyn yn datblygu o bolypau. Twf bach ar leinin y coluddyn yw polyp. Nid yw pob polyp yn datblygu’n ganser. Os canfyddir polypau, gellir eu tynnu i’w hatal rhag datblygu’n ganser.
Darganfod mwy am arwyddion a symptomau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Canser y coluddyn – GIG (www.nhs.uk) (Saesneg yn unig)
Canser y Coluddyn | Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig)
Dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Mae’r wybodaeth yn yr adrannau canlynol yn egluro’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sgrinio coluddion.
- Rhesymau dros gymryd rhan mewn sgrinio coluddyn
- Eich gwahoddiad i sgrinio y coluddyn
- Ynglŷn â phrawf sgrinio’r coluddyn
- Eich canlyniadau sgrinio y coluddyn
- Arwyddion a symptomau canser y coluddyn
Pam mae cymryd rhan mewn prawf sgrinio’r coluddyn yn bwysig?
Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio’r coluddyn pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.
Mae sgrinio’n bwysig oherwydd:
- Mae’n gallu dod o hyd i ganserau cyn i’r symptomau ymddangos
- Os bydd canser yn cael ei drin yn gynnar, bydd yn rhoi’r siawns orau i chi oroesi.
Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n iawn hyd yn oed os oes gennych ganser y coluddyn cynnar.
Pa mor gywir yw profion sgrinio’r coluddyn?
Cwblhau pecyn profi’r coluddyn bob 2 flynedd yw’r ffordd orau o ganfod canser y coluddyn yn gynnar. Mae’r prawf sgrinio’r coluddyn yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ ond nid yw pob canser yn gwaedu. Mae hyn yn golygu y mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ganser yn cael eu canfod.
Nid yw prawf sgrinio’r coluddyn 100% yn gywir. Bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a’i drin yn gynnar.
Gallwch gael canser y coluddyn ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig siarad â’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau hyd yn oed os ydych wedi cwblhau eich pecyn profi’r coluddyn yn ddiweddar.
Hanes y teulu
Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o gael canser y coluddyn am ei fod yn rhedeg yn eu teulu.
Efallai y bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at Wasanaeth Geneteg Cymru Gyfan os oes gennych hanes teuluol.
Os ydych yn poeni am ganser y coluddyn sy’n rhedeg yn eich teulu, siaradwch â’ch meddyg neu dilynwch y ddolen i wefan y Gwasanaeth Genetig (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth.
Adroddiadau
Adroddiadau rhaglen sgrinio coluddion
Data
Data am gwmpas sgrinio’r coluddion a’r nifer sy’n cael eu sgrinio
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Coluddion Cymru yn ôl awdurdod unedol a bwrdd iechyd 2017 i 2018
Cyfranogwyr cymwys yw’r rhai a oedd yn byw yng Nghymru ac a gafodd eu gwahodd…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Coluddion Cymru yn ôl clwstwr Meddygon Teulu 2017 i 2018
Cyfranogwyr cymwys yw’r rhai a oedd yn byw yng Nghymru ac a gafodd eu gwahodd…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Coluddion Cymru yn ôl awdurdod unedol a bwrdd iechyd 2018 i 2019
Cyfranogwyr cymwys yw’r rhai a oedd yn byw yng Nghymru ac a gafodd eu gwahodd…
-
Y niferoedd sydd wedi manteisio ar Sgrinio Coluddion Cymru yn ôl clwstwr Meddygon Teulu 2018 i 2019
Cyfranogwyr cymwys yw’r rhai a oedd yn byw yng Nghymru ac a gafodd eu gwahodd…