Sgrinio
Beth yw sgrinio?
Proses o ddarganfod pobl sy’n ymddangos yn iach a allai fod mewn mwy o berygl o gael clefyd neu gyflwr yw sgrinio. Yna, gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a thriniaeth briodol iddynt i leihau eu risg o’r clefyd neu gyflwr a lleihau unrhyw gymhlethdodau sy’n deillio ohono.
Trawsysgrif – Beth yw Sgrinio’r GIG?
Felly, mae’n debyg eich bod chi wedi clywed am sgrinio?
… ond beth yn union yw ef?
Mae prawf sgrinio yn chwilio am arwyddion cynnar o gyflwr iechyd, o ganser y coluddyn i glefyd y llygaid diabetig.
Mae’r GIG yng Nghymru yn cynnig sgrinio iechyd am ddim i filoedd o bobl bob blwyddyn.
Rhoddir y profion hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, o pelydrau-x y fron, sgrinio serfigol – a elwir hefyd yn brofion ceg y groth, sganiau uwchsain, i ffotograffau a dynnwyd o gefn y llygad ar gyfer pobl â diabetes.
Gall hyd yn oed babanod newydd-anedig gael prawf gwaed syml drwy bigiad sydyn yn y sawdl, a all wirio am nifer o gyflyrau prin, ond difrifol.
Mae sgrinio fel rhoi grŵp mawr o bobl drwy ogr.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn pasio drwodd yn syth, ond mae nifer fach yn cael eu dal.
Mae’r rhai sy’n cael eu dal yn cael gwybod bod ganddyn nhw fwy o siawns o gael y cyflwr maen nhw wedi eu sgrinio amdano.
Os chi yw hyn, byddwch yn cael cynnig profion, cyngor a chymorth pellach.
Po gynharaf y bydd cyflwr yn cael ei ddarganfod a’i drin, y gorau yw eich siawns o aros yn iach.
Nid yw sgrinio yn 100% cywir, weithiau gall problemau gael eu methu, ac ar adegau eraill dywedir wrth bobl eu bod yn wynebu risg uwch pan nad ydynt.
Ond gall ein helpu i aros yn iach a gwneud penderfyniadau gwybodus am ein hiechyd.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg, cewch wahoddiad i gael eich sgrinio yn awtomatig.
Cofiwch, ar gyfer pobl sy’n teimlo’n dda y mae sgrinio. Os oes gennych chi unrhyw symptomau, neu os ydych chi’n poeni am rywbeth, peidiwch ag aros i gael eich sgrinio. Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg.
Gallai cymryd rhan mewn sgrinio fod y dewis gorau a wnewch.
Cewch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn