Neidio i'r cynnwys

Tai

Mae tai yn un o’r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer bywyd iach ac mae pob agwedd o’n cartrefi a ble rydym yn byw yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol.

Er mwyn i gartref fod yn iach, mae angen iddo fod yn gynnes, yn rhydd o leithder a chael digon o le a golau, er enghraifft. Mae angen iddo hefyd fod yn fforddiadwy i fyw ynddo ac yn addas ar gyfer ein hanghenion.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn glir bod yn rhaid i dai iach hefyd ddarparu teimlad o gartref – ymdeimlad o berthyn, diogelwch a phreifatrwydd. Mae ein cymunedau a’n cymdogaethau cyfagos hefyd yn chwarae rhan mewn cefnogi iechyd a llesiant da.

Yn olaf, mae sut y caiff ein cartrefi eu hadeiladu, eu cynnal a’u cadw a pha mor effeithlon ydynt o ran ynni hefyd yn dod â manteision i’n hiechyd, ac ar yr un pryd yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

  • Map tystiolaeth tai

    Mae’r map tystiolaeth hwn yn cefnogi blaenoriaethau strategol strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer…