Penderfynyddion ehangach iechyd
Byddwn yn cydweithio ag eraill i ddeall a gwella’r ffactorau sy’n effeithio ar iechyd pawb.
Y penderfynyddion iechyd ehangach yw’r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau. Drwy ddylanwadu ar ddyluniad a gweithrediad polisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r penderfynyddion hyn byddwn yn gwella llesiant pobl ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Penderfynyddion allweddol iechyd a llesiant yw ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau, ansawdd a diogelwch ein tai, ein lefel o addysg a sgiliau, argaeledd gwaith da, arian ac adnoddau a hefyd ein hamgylchedd.
Erbyn 2030, rydym am i bobl Cymru gael siawns fwy cyfartal o fyw bywyd boddhaus, yn rhydd o afiechyd y gellir ei atal.
Mae hyn y golygu:
- cynorthwyo plant i ddysgu a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn
- cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi sy’n lleihau anghydraddoldeb incwm
- cynorthwyo cyflogwyr i greu amgylcheddau sy’n cefnogi llesiant
- cefnogi’r GIG i leihau effaith tlodi, incwm isel a dyledion fel rhwystrau rhag iechyd da
- lleihau nifer y bobl sy’n rhoi’r gorau i weithio o ganlyniad i iechyd gwael
- gweithio gydag eraill i atal digartrefedd
- hyrwyddo ansawdd tai da
- manteisio i’r eithaf ar botensial yr amgylchedd adeiledig a naturiol i wella iechyd a llesiant
Erbyn 2030:
- byddwn wedi gweithio gyda phartneriaid i fanteisio i’r eithaf ar botensial yr amgylchedd adeiledig a naturiol i wella iechyd a llesiant
- bydd gennym amgylchedd dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill sy’n gwella iechyd
- byddwn wedi sefydlu’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel ffordd o weithio ac rydym yn galluogi Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o ansawdd uchel i gael eu cynnal ledled Cymru
- byddwn wedi dylanwadu ar y prif gyflogwyr yng Nghymru i greu gwaith da, cynnal cyflogaeth a buddsoddi yn iechyd a llesiant y staff
- byddwn yn brif ffynhonnell o gyngor a thystiolaeth ar y penderfynyddion iechyd ehangach i bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau
- byddwn wedi gwella ansawdd a hygyrchedd tai yng Nghymru drwy bartneriaeth iechyd a thai arloesol
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Adroddiadau
Data
-
Offeryn adrodd asedau iechyd
Mae’r dangosyddion a gyflwynir yn cynnwys ystod o bynciau ar draws tri maes: Pobl (Iechyd,…
-
Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 2018
Dyma ffeil wastad sy’n cynnwys y data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad Iechyd a’i phenderfynyddion…
-
Amddifadedd incwm cronnus 2017
Cyfrif a chanran yr holl bersonau yn ôl Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) preswylio Cymru….
-
Beth sy’n gweithio i wella cyfranogiad mewn gwaith?
Mae’r map tystiolaeth hwn yn cefnogi blaenoriaeth strategol un o strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru….