Iechyd deintyddol y cyhoedd
Mae Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn faes arbenigol o ddeintyddiaeth sy’n darparu arweinyddiaeth system strategol gyda’r nod o wella iechyd deintyddol y boblogaeth, gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg. Mae hyn yn cynnwys arwain y rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ymysg plant, Cynllun Gwên, yn ogystal â’r rhaglen genedlaethol i wella gofal y geg mewn cartrefi nyrsio a gofal, Gwên am Byth. Mae cylch gwaith Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn cynnwys creu a rhannu gwybodaeth am iechyd y geg er mwyn dod i ddeall anghenion y boblogaeth ac i gynllunio gwasanaethau deintyddol.
Mae GIG 111 Cymru – Llinellau Cymorth Deintyddol yn rhoi gwybodaeth am gyngor clinigol a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Cysylltu â Iechyd Deintyddol y Cyhoedd
Os hoffech ddod i gysylltiad â ni, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn