Rheoli digwyddiadau amgylcheddol
Digwyddiad amgylcheddol yw unrhyw ddigwyddiad (difrifol fel arfer) lle mae amlygiad(au) y cyhoedd i beryglon cemegol, neu beryglon amgylcheddol eraill, yn achosi effeithiau andwyol ar iechyd, neu â’r potensial i wneud hynny. Gall digwyddiadau fod ar raddfa fach, fod yn fyrhoedlog, neu’n gymhleth ac yn hirfaith dros gyfnod o ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau yn cynnwys gollyngiadau cemegol/ymbelydredd, neu ddigwyddiadau tywydd eithafol megis llifogydd.
Ein rôl
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r ymateb aml-asiantaeth i ddigwyddiadau o’r fath er mwyn asesu a rheoli unrhyw risgiau iechyd y cyhoedd cysylltiedig. Yn ystod digwyddiad, byddwn yn:
- Asesu’r effaith ar iechyd y boblogaeth i lywio’r ymateb aml-asiantaeth;
- Cydgysylltu ag asiantaethau arbenigol eraill, fel y bo’n briodol, i sicrhau y darperir cyngor cymesur ac amserol sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
- Argymell mesurau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lliniaru effeithiau digwyddiad,
- Cyfrannu at ystod o bartneriaethau aml-asiantaeth megis y Grwpiau Cydlynu Strategol ac Adfer, y Gell Cyngor Gwyddonol a Thechnegol (STAC), y Gell Ansawdd Aer (AQC) a’r gell cyfryngau;
- Cynghori ar gyfathrebu risgiau iechyd y cyhoedd yn effeithiol;
- Dadansoddi a gwerthuso’r ymateb a gynigir gan asiantaethau eraill o ran yr effaith debygol ar iechyd y cyhoedd;
- Hwyluso dilyniant epidemiolegol o boblogaethau a chymunedau yr effeithir arnynt yn ôl yr angen.
Yn achos digwyddiadau ar raddfa fach byddwn yn cynnull Tîm Rheoli Digwyddiadau Amgylcheddol (IMT), yn unol â’r canllawiau a luniwyd gennym, i hwyluso’r gwaith o gydgysylltu’r ymateb i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Ar gyfer pob digwyddiad, byddwn yn cymhwyso athrawiaeth Rhaglen Rhyngweithredu ar y Cyd y Gwasanaethau Brys (JESIP) o ‘weithio gyda’n gilydd i achub bywydau a lleihau niwed’ a’r Model Penderfyniadau ar y Cyd. Mae hyn er mwyn sicrhau dull cyson o asesu a rheoli risg digwyddiadau a chyfathrebu amdano ac, yn ei dro, uwchgyfeirio digwyddiadau pan fo’n briodol.
Ochr yn ochr ag asiantaethau partner eraill, rydym yn chwarae rhan allweddol wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer y mathau hyn o ddigwyddiadau. Mae hyn fel arfer yn golygu cyfrannu at ddatblygu cynlluniau brys a gweithdrefnau profi trwy hyfforddiant ac ymarfer rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth
Er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r agweddau gweithredol ar faterion diheintio sy’n ymwneud â rheoli digwyddiadau ac i gefnogi ein hasiantaethau partner, rydym wedi datblygu Canllawiau Diheintio Cemegol ar gyfer Byrddau Iechyd mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn