Neidio i'r cynnwys

Cyswllt â phlwm

Mae plwm yn fetel sydd i’w ganfod yn naturiol o’n cwmpas ni. Mae hyn yn golygu ei fod yn y pridd, y creigiau, yr aer ac mewn dŵr i raddau amrywiol, gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw. Yn y gorffennol, roedd yn cael ei ddefnyddio i wneud llawer o bethau, fel petrol, paent, pibellau, a theganau, a thuniau bwyd, potiau coginio a cholur hyd yn oed. Y newyddion da yw bod plwm wedi’i wahardd o bob cynnyrch fel paent a phetrol sawl blwyddyn yn ôl bellach. Ond mae rhai ffynonellau o blwm o hyd yn y llefydd lle rydym yn byw ac yn chwarae, mewn haenau o hen baent neu bibellau dŵr. Does dim lefel ddiogel o gyswllt â phlwm a gwelwyd bod lefelau isel hyd yn oed o blwm yn effeithio ar IQ a gallu plant ifanc i ganolbwyntio a dysgu. Hefyd gall plwm effeithio ar yr ymennydd a’r system nerfol.

Pwy sy’n wynebu’r perygl mwyaf?

Gall pawb gael eu niweidio drwy gyswllt â phlwm.

Plant iau na 6 oed sydd fwyaf agored i niwed gan fod eu system nerfol yn dal i ddatblygu. Hwy hefyd sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â gwrthrychau sydd wedi’u llygru â phlwm oherwydd eu bod yn rhoi eu dwylo neu wrthrychau eraill yn eu ceg. Mae merched beichiog yn wynebu risg hefyd oherwydd gall y plwm y daw y fam i gysylltiad ag ef drosglwyddo i’w babi heb ei eni.

Efallai bod gan bobl sy’n byw mewn tai hŷn (cyn y 1970au) bibellau dŵr neu baent plwm.

Sut gallaf i ddod i gysylltiad â phlwm?

Er nad ydym yn defnyddio plwm mewn paent, petrol neu bibellau dŵr erbyn hyn, mae dal yn ein cartrefi ni neu mewn cynhyrchion o wledydd eraill. Efallai bod rhai diwydiannau a hobïau fel pysgota, saethu a chreu gwydr lliw yn dal i ddefnyddio plwm.

Gallwch ddod i gysylltiad â phlwm drwy’r ffyrdd canlynol:      

  • Gall plant ifanc fwyta neu gnoi pethau sy’n cynnwys plwm. Gall hyn gynnwys paent plwm, hen deganau sy’n cynnwys plwm neu wedi’u paentio â phlwm, neu bridd wedi’i lygru gyda phlwm yn yr ardd.
  • Os ydych chi’n byw mewn hen dŷ neu’n ei adnewyddu, fel y rhai sydd wedi’u paentio cyn y 1970au, gallai haenau o hen baent gynnwys plwm a throi’n llwch wrth ei dynnu.
  • Drwy eich gwaith neu eich hobi.
  • Drwy yfed dŵr o dapiau tŷ pan mae’r dŵr yma’n rhedeg drwy bibellau plwm. Dim ond mewn tai wedi’u hadeiladu cyn y 1970au mae hyn yn digwydd fel rheol.
  • Drwy yfed dŵr o dapiau tŷ pan mae sodor plwm wedi cael ei ddefnyddio i uno pibellau.
  • Drwy ddefnyddio rhai moddion a cholur traddodiadol neu botiau coginio sy’n cynnwys plwm.

Beth ddylech ei wneud os ydych yn credu eich bod wedi cael cyswllt â phlwm?

Y newyddion da yw bod ein cyswllt â phlwm wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ac mae ffyrdd syml o atal cyswllt.

  • Golchi dwylo a theganau plant yn rheolaidd fel bod unrhyw lwch plwm sy’n dod i gysylltiad â hwy’n cael ei olchi i ffwrdd.
  • Cadw llygad ar beth mae plant yn ei roi yn eu ceg.
  • Osgoi defnyddio moddion cartref traddodiadol a cholur neu offer coginio traddodiadol nad ydynt yn ddi-blwm neu sydd wedi’u mewnforio o dramor.
  • Gwneud yn siŵr bod teganau eich plant wedi’u stampio gyda Nod ‘CE’. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu gwirio ac yn ddiogel.
  • Os ydych chi’n byw mewn tŷ a gafodd ei adeiladu cyn y 1970au, dylech gymryd yn ganiataol bod rhywfaint o baent plwm ynddo. Glanhewch yr arwynebau wedi’u paentio’n rheolaidd. Gwnewch yn siŵr bod plant yn osgoi ardaloedd lle mae paent yn dod i ffwrdd.
  • Os ydych chi’n bryderus bod gan eich tŷ bibellau plwm ynddo, gallwch gael profi eich dŵr am ddim.
  • Os ydych chi’n poeni bod rhywun yn eich teulu wedi dod i gysylltiad â phlwm, siaradwch gyda’ch meddyg teulu.

Beth yw ein rôl ni?

Rydym wedi ymrwymo i leihau cyswllt pobl â phlwm. Rydym yn rhan o’r Bartneriaeth Iechyd Dŵr ar gyfer Cymru sy’n datblygu mesurau i leihau plwm mewn dŵr yfed ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid amrywiol i ddeall yn well sut mae pobl yn dod i gysylltiad â phlwm. Hefyd rydym yn cefnogi meddygon teulu ac adrannau iechyd lleol sy’n trin plant ac oedolion sydd wedi dod i gysylltiad â lefelau uchel o blwm ac, yn 2018, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno trothwy iechyd cyhoeddus is ar gyfer plwm mewn gwaed er mwyn sicrhau bod posib adnabod cyswllt â phlwm yn gynharach.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn