Cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol
Gall y ffordd rydym yn cynllunio ac yn dylunio’r amgylchedd adeiledig gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl.
Mae ein llesiant yn cynnwys ansawdd ein bywydau, ein ffyniant, ein hiechyd corfforol a meddyliol a’r cymunedau o’n cwmpas. Prif bwrpas y system gynllunio yng Nghymru yw sicrhau datblygu cynaliadwy, gan sicrhau bod anghenion cyfredol yn cael eu diwallu ond nid ar draul gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi blaenoriaethau hirdymor ar gyfer iechyd gan gynnwys sut y byddwn yn gwella llesiant pobl ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd. Un ffordd o helpu i gyflawni hyn yw drwy weithio gyda phartneriaid fel cynllunwyr defnydd tir a’r rhai sy’n llunio polisi.
Ein rôl
Mae pob cais cynllunio yng Nghymru yn cael ei ystyried yn unol â pholisi cynllunio lleol a/neu genedlaethol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgynghorai (ochr yn ochr â byrddau iechyd yng Nghymru) ac yn aml mae cynllunwyr yn gofyn i ni asesu risgiau datblygiadau arfaethedig a chynnig cyngor iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn sicrhau bod materion iechyd pwysig yn cael eu hystyried yn ystod prosesau penderfynu. Mae’n bosibl weithiau y bydd gofyn am Asesiad o’r Effaith ar Iechyd; os felly, rydym yn gweithio’n agos gydag Uned Cymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) i sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig at ystyried ac asesu materion iechyd a llesiant eang eu cwmpas.
Cydnabyddir bod angen cynyddol i weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol ymwneud â chamau cynnar cynllunio polisïau cenedlaethol a lleol a chamau cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau mawr. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i gynyddu ymgysylltiad ‘i fyny’r afon’ er mwyn i ni fanteisio ar gyfleoedd i ymwreiddio iechyd y cyhoedd fel ystyriaeth graidd mewn polisi ac arfer cynllunio. Rydym wedi helpu i gynhyrchu canllaw i ymarferwyr ar integreiddio iechyd cyhoeddus a chynllunio.
Tabl cynnwys:
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn