Neidio i'r cynnwys

Ansawdd tir

Mae tir yn adnodd pwysig ac mae galw mawr am ei ddatblygu a’i ailddefnyddio. Gall tir sydd wedi cael ei ddefnyddio’n flaenorol fod wedi’i lygru gan beri risg o bosib i ddefnyddwyr yn y dyfodol.

Risgiau iechyd

Dim ond os gall halogion fynd i mewn i’r corff y gall halogiad tir niweidio iechyd. Gall hyn fod drwy anadlu nwyon, bwyta pridd (yn enwedig ymhlith plant) neu fwyta bwyd neu yfed dŵr halogedig, neu drwy gysylltiad croen â deunydd halogedig.

Mae’r risg o hyn yn digwydd yn cael ei rheoli, a’i lleihau, yng Nghymru gan y gyfundrefn gynllunio, neu Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2000 a Chanllaw Statudol i Gymru ar Dir Halogedig 2012.

Ein risgiau

Yng Nghymru, dim ond timau iechyd amgylcheddol awdurdodau lleol (ALlau) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) all asesu a yw tir wedi’i halogi. Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw rôl uniongyrchol mewn ymchwiliadau tir.

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru helpu i benderfynu a allai halogiad fod yn niweidiol i iechyd. Gwnawn hyn drwy ddehongli canlyniadau ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal gan ALlau neu CNC.

Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru wneud sylwadau ar y dulliau a ddefnyddir mewn asesiad safle; dim ond y rheoleiddwyr, sef ALlau neu Gyfoeth Naturiol Cymru, all sicrhau, dilysu a gwirio’r rhain.

Bydd eich awdurdod lleol yn gallu helpu os oes gennych bryderon ynghylch halogiad tir.

Mae rhagor o wybodaeth am dir halogedig mewn lleoliadau preswyl ar gael yma.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn