Neidio i'r cynnwys

Heintiau niwmococol

Mae haint niwmococol yn cael ei achosi gan facteria niwmococol (Streptococcus pneumoniae) a gall achosi salwch difrifol, fel sepsis a llid yr ymennydd.

Haint niwmococol (Streptococcus pneumoniae) yw un o achosion mwyaf cyffredin llid yr ymennydd (haint ar leinin yr ymennydd). Mae hefyd yn achosi heintiau clust (otitis media), niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) a rhai afiechydon difrifol eraill. 

Mae pobl 65 oed neu hŷn ac unigolion â chyflyrau iechyd penodol yn fwy tebygol o fynd yn sâl gyda haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd hirdymor difrifol oherwydd haint niwmococol a gallant hyd yn oed farw. Mae’r grwpiau hyn yn cael cynnig brechiad niwmococol ar y GIG. Mae’n frechlyn diogel a all helpu i atal rhai o’r mathau difrifol o heintiau niwmococol.

Mae rhai unigolion yn cario bacteria niwmococol yng nghefn eu trwyn a’u gwddf a gallant eu pasio o gwmpas trwy beswch, tisian, a chyswllt agos. Mae hyd at 60% o blant yn cario bacteria niwmococol yng nghefn eu trwyn a’u gwddw. Fel arfer, nid yw hyn yn arwain at salwch difrifol, ond gall arwain at haint niwmococol, gan gynnwys llid yr ymennydd niwmococol.

Dysgwch fwy

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlynnau, neu’r clefydau maen nhw’n eu hamddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn